Fel teyrnged i frwydr y Beasleys, safiad Jamie Bevan yn y carchar, 50 mlynedd o ymgyrchu, ac er mwyn sicrhau fod y frwydr yn parhau i'r dyfodol, rwy'n dy wahodd i'r penwythnos llawn o ddigwyddiadau sydd gan y Gymdeithas yn dechrau ddydd Gwener.
Dydd Gwener 7fed Medi, 10.00-16.00 Cynhadledd Ryngwladol Ymgyrchu dros Ieithoedd tan Ormes
Canolfan y Morlan
Siaradwyr o Colombia, Gwlad y Basg, Twrci, Catalonia a Chymru yn trafod pa wersi all Cymru eu dysgu o brofiad ymgyrchwyr mewn gwledydd eraill ac effaith datganoli ar dactegau ymgyrchwyr. Darperir cyfieithu amlieithog gan Alan King.
Cofrestru: colin@cymdeithas.org / 029 20486469.
Dydd Gwener 7fed Medi, 19:00-21:00
Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith
Canolfan y Morlan
Pleidleisio ar gynigion am natur y mudiad ac ar ein hymgyrchoedd.
16.30 - Pigion Sianel 62
19:00 - Croeso gan y Cadeirydd
19.15 - Adroddiad Buddsoddi / Adroddiad Ariannol
19.30 - Cynigion
Dydd Gwener 7fed Medi, 21:00
Rifiw: Hanner can mlynedd o ymgyrchu
Theatr Arad Goch
Cyfle arall i weld drama a ysgrifennwyd i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith
Dydd Sadwrn 8fed Medi, 9.30-13.00
Paratoi ar gyfer Ymgyrchu
Canolfan y Morlan
Gweithdai "Trefn Addysg i Gymru" a "Hawliau Defnyddio'r Gymraeg".
Gweithdai "Dyfodol Digidol i Gymru" a "Cymunedau Cynaliadwy Cymraeg"
12.45 - Cyflwyno swyddogion etholedig a chyflogedig ac araith y Cadeirydd
13.00-14.00 - Pigion Sianel 62
14.30 - Rali Flynyddol: Dathlu hanner can mlynedd o ymgyrchu ieithyddol
Canolfan y Morlan
Siaradwyr: yr awdur a darlledwr Mike Parker, llywydd Plaid Cymru Jill Evans ASE, Paul Bilbao Sarria, cynrychiolydd y mudiad iaith Fasgeg Kontseilua, Sian Howys Cymdeithas yr Iaith
15.15 - Sgwrs gyda Jamie Bevan: y frwydr iaith yn y carchar
Fe gafodd ymgyrchydd iaith ei groesawu adref gan chwedeg o bobl heddiw (Dydd Iau, Awst 30) ar ôl treulio dros bythefnos o dan glo am wrthod talu dirwy a orchmynnwyd iddo ei dalu'n uniaith Saesneg.
Ers cael ei garcharu, mae Jamie Bevan, 36 mlwydd oed o Ferthyr Tudful ac sydd yn dad i bedwar o blant, wedi cwyno'n swyddogol wrth Gomisiynydd y Gymraeg am y diffyg ffurflenni Cymraeg sydd ar gael i garcharorion. Mae fe hefyd wedi codi pryderon am agwedd sarhaus swyddogion carchar Caerdydd at y Gymraeg, gan gyfeirio at "rhegfeydd a bygythiadau agored".
Cafwyd cefnogaeth i'w safiad gan nifer o bobl, gan gynnwys yr AS Llafur Susan Elan Jones, Jill Evans ASE a Bethan Jenkins AC o Blaid Cymru. Mae Comisiynydd y Gymraeg bellach wedi gytuno i gwrdd â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg i drafod sefyllfa'r Gymraeg yn y system gyfiawnder.
Wrth ei groesawu yn ôl, dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae hwn yn brawf cynnar o Gomisiynydd y Gymraeg. Gallai hi orfodi'r carchardai i gydymffurfio â'u goblygiadau cyfreithiol, a fydd hi'n gwneud hynny? Ydy hi'n ddigon cryf i sefyll lan yn erbyn y sefydliadau hyn sydd yn torri eu cynlluniau iaith? Derbyniodd hi gwyn am driniaeth Jamie dros bythefnos yn ôl, pryd fydd pethau yn newid? Ymhellach, mae swyddogion wedi rhegi ar a bygwth Jamie am iddo geisio defnyddio Cymraeg. Mae'n gwbl annerbyniol. Maen nhw wedi cael degawdau i gydymffurfio â'r gyfraith, mae'n amser i bethau newid."
Y bore yma, oedodd swyddogion y carchar rhag rhyddhau Jamie Bevan oherwydd nad oedd ffurflen rhyddhau ar gael yn Gymraeg. Yn y diwedd, cytunon nhw i'w adael allan heb orfod llenwi'r ffurflen.
Yn ei lythyr o garchar Caerdydd at Gomisiynydd y Gymraeg Meri Huws, ysgrifennodd Mr Bevan: "Dydy'r ffurflenni sydd wir yn bwysig i garcharor megis ffurflenni rhifau ffôn, rhestr ymweliadau, bwydlen a'r siop wythnosol dal ddim ar gael yn Gymraeg. Mae yna ryw deimlad fod swyddogion y carchar mewn 'crisis management' wrth ddelio gyda'r cwsmer lletchwith wrth ddarparu sgrapiau o bapur plaen i mi wneud fy ngheisiadau. Fe fyddaf i'n gadael y lle yma ymhen wythnos arall a gall popeth ddychwelyd i'r normal.
"Dyma enghraifft o sut mae pethau wedi gweithio ers Deddf Iaith '93 a chynt. Sefydliad yn derbyn cwyn am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg. Sefydliad yn ymddiheuro a chywiro'r sefyllfa gyda rhyw gyfieithiad brys. Mae'r cwsmer yn derbyn yr ymddiheuriad a phethau o fewn y sefydliad yn dychwelyd i'r norm ... tan y gwyn nesaf. Does dim dilyniant i sicrhau bod newid cadarnhaol yn yr hirdymor yn hytrach na delio gydag achosion unigol ar hap a damwain.
Neithiwr, noson cyn rhyddhau Jamie Bevan gosodwyd sticeri yn datgan "Jamie Bevan Carchar Dros yr Iaith" yn nhref Caerfyrddin gan aelodau Cymdeithas yr Iaith.
Carcharwyd Jamie Bevan am 35 diwrnod gan Lys Ynadon Merthyr ar Awst 13eg am wrthod talu dirwy wedi iddo fod yn derbyn gohebiaeth uniaith Saesneg.
Dywedodd un o'r gweithredwyr:
"Fe wnaethom godi sticeri er mwyn dangos yn glir ein cefnogaeth i safiad dewr Jamie dros bawb sydd eisiau gwasanaeth Cymraeg gan y llysoedd ac er mwyn tynnu sylw pawb at ei safiad."
Cyn ei achos llys fe dderbyniodd Jamie ohebiaeth uniaith Saesneg gan wasanaeth y llysoedd er iddo ofyn bob tro am ohebiaeth ddwyieithog a derbyn ymddiheuriadau ac addewidion na fyddai'n digwydd eto. Yn ystod ei garchariad mae hefyd wedi mynnu gwasanaeth Cymraeg gan golli hawliau sylfaenol yn sgil hynny.
Mewn llythyr at y Comisiynydd Iaith mae Jamie Bevan wedi pwysleisio nad brwydro dros ei hun y mae ond er mwyn sicrhau gwasanaethau Cymraeg i bawb sydd yn gofyn amdanynt gan lysoedd a charchardai.
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Bydd Jamie Bevan yn cael ei ryddhau yfory ac er iddo gael rhai gwasanaethau Cymraeg ar ol cwyno a chwyno does dim sicrwydd y pethau'n newid mewn gwirionedd.
"Dim ond enghraifft yw'r llysoedd a'r carchardai, mae diffyg mewn gwasanaethau Cymraeg ym mhob maes ac ymateb arwynebol y llys a'r carchar, er yn annerbyniol, yn cael ei weld yn rhy aml."
Rhan amser dros dro - (union oriau yr wythnos i'w drafod)
Cyflog o £10,000 am y gwaith
Lleoliad yn hyblyg
Wedi i Gymdeithas yr Iaith sefydlu a dechrau cael aelodau ar gyfer Cynghrair Cymunedau Cymru mae angen unigolyn i gydweithio gyda chynrychiolwyr presennol y Gynghrair ac aelodau potensial o'r Gynghrair ar draws Cymru gyda'r bwriad o sicrhau y bydd y Gynghrair yn weithredol yn rhydd o unrhyw swyddog cyflogedig.
Am fwy o wybodaeth a disgrifiad swydd cysylltwch â Bethan Williams: 07730 252177 / bethan@cymdeithas.org
Anfonwch eich llythyr cais erbyn Dydd Gwener Awst 31ain i: Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ystafell 5, Y Cambria, Aberystwyth SY23 2AZ neu trwy e-bost i post@cymdeithas.org
Arweinydd Uned Cyswllt Cynulliad
Swydd 10 awr yr wythnos
Cyflog o £19,000 pro rata
Lleoliad: Caerdydd yn ddelfrydol
Byddwch yn cydweithio yn agos â swyddogion a gwirfoddolwyr eraill y Gymdeithas er mwyn sefydlu Uned Gyswllt â'r Cynulliad a fydd yn ffurfio, dylanwadu a phwyso am bolisïau a deddfau mewn meysydd sydd yn gyfrifoldeb i'r Cynulliad Cenedlaethol ac yn ymwneud yn benodol â'r iaith Gymraeg, addysg a chymunedau Cymru.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Colin Nosworthy: 02920 486469 / colin@cymdeithas.org
Anfonwch eich llythyr cais erbyn Dydd Gwener Awst 31ain i: Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ystafell 5, Y Cambria, Aberystwyth SY23 2AZ neu trwy e-bost i post@cymdeithas.org
Gosodwyd sticeri yn datgan "Jamie Bevan Carchar Dros yr Iaith" ar lys Ynadon a llys y Goron Caernarfon gan aelodau Cymdeithas yr Iaith.
Daw'r weithred wedi i Jamie Bevan gael ei garcharu am 35 diwrnod gan Lys Ynadon Merthyr ar Awst 13eg am wrthod talu dirwy wedi iddo fod yn derbyn gohebiaeth uniaith Saesneg.
Dywedodd Osian Jones, trefnydd y Gymdeithas yn y gogledd -
"Targedwyd Llys Ynadon a Llys y Goron yng Nghaernarfon neithiwr er mwyn dangos yn glir ein cefnogaeth i safiad dewr Jamie dros bawb sydd eisiau gwasanaeth Cymraeg gan y llysoedd. Cyn ei achos fe dderbyniodd Jamie ohebiaeth uniaith Saesneg gan wasanaeth y llysoedd dro ar ôl tro, er iddo ofyn bob tro am ohebiaeth ddwyieithog a derbyn ymddiheuriadau."
Ychwanegodd Menna Marchreth Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd / Môn Cymdeithas yr Iaith -
"Mae'r llysoedd wedi sarhau Jamie a'r Gymraeg ac mae'r carchar yn parhau i wneud hynny. Nid oes ffurflenni Cymraeg wedi bod ar gael i Jamie yn ystod ei amser yn y carchar ac er i ni gael addewidion y byddai hynny'n newid dydy'r carchar ddim wedi cymryd y mater o ddifrif chwaith nac yn delio a'r broblem ehangach fod diffyg darpariaeth Gymraeg gan garchardai Cymru.
"Enghraifft yw'r llysoedd a'r carchardai, mae diffyg mewn gwasanaethau Cymraeg ym mhob maes."
Wedi mwy nag wythnos gyfan yng Ngharchar Caerdydd mae Jamie Bevan yn dal i aros am ffurflenni sylfaenol yn y Gymraeg ac mae pryder y bydd y broses yn ailddechrau eto gan fod Jamie yn symud i garchar Prescoed, Sir Fynwy heddiw (dydd Mercher 22ain o Awst).
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'r carchar wedi trin Jamie fel unigolyn gan ofyn iddo ysgrifennu ei ddewisiadau bwyd a chofrestru manylion ymwelwyr ar dudalen wag yn hytrach na bod rhaid i'r carchar ddarparu ffurflenni Cymraeg. A fydd hyn yn digwydd i bob carcharor sydd eisiau gwasanaeth Gymraeg? Mae'n glir i weld nad oes newid gwirioneddol, ac nad yw'r carchar wedi mynd i'r afael a'r broblem sylfaenol fod diffyg gwasanaeth Cymraeg."
"Mae hi'n debygol na fydd unrhyw wasanaeth Gymraeg ar gael yng ngharchar Prescoed y chwaith, a bydd rhaid i Jamie orfod gofyn am bopeth yn Gymraeg eto o'r newydd a pharhau i ddioddef anghyfiawnder."
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi fod Jamie Bevan, a garcharwyd am 35 niwrnod Ddydd Llun gan Ynadon Merthyr Tudful, wedi parhau ei frwydr dros gyfiawnder i'r Gymraeg tu fewn i'r carchar. Mae wedi colli nifer o'i hawliau fel carcharor gan nad yw wedi bod yn fodlon arwyddo ffurflenni uniaith Saesneg. Mae'n amlwg nad oes gan Garchar Caerdydd fel sefydliad cyhoeddus unrhyw ddarpariaeth Gymraeg, ac mae nifer o swyddogion yn ddilornus o'r iaith.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi herio'r Comisiynydd Iaith, Meri Huws, a'r Gweinidog dros y Gymraeg Leighton Andrews i weithredu'n syth i unioni'r cam a mynnu fod llywodraethwyr Carchar Caerdydd yn parchu'r Gymraeg.
Er i Gomisiynydd y Gymraeg ddweud y byddai yn sicrhau y gallai Jamie Bevan defnyddio'r ffôn, ers iddo ffonio wedi cyrraedd nid yw ei deulu wedi cael galwad ffôn ganddo o hyd. Mae hyn yn destun pryder iddyn nhw fel teulu.
Meddai llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae carchardai Cymru yn gwasanaethu Cymry Cymraeg, dylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gael felly i unrhyw un sydd yn dymuno gwneud defnydd ohonynt. Daw'r gwyn yma ar ran holl garcharorion Cymraeg Cymru. Ddylai neb orfod gofyn am y pethau hyn - ac yn sicr ddylai neb fod yn colli allan ar bethau sylfaenol fel dewis bwyd a defnydd o gyfleusterau. Nid yw'r carchar na'i swyddogion yn dangos unrhyw barch tuag at Jamie, carcharorion Cymraeg eraill, na'r Gymraeg.
"Er ein bod wedi ennill tir o ran y Gymraeg nid yw sefydliadau na chyrff yn cymryd y Gymraeg o ddifrif o hyd. Rydym yn gweld hynny bob dydd wrth orfod gofyn dro ar ôl tro am ohebiaeth neu wasanaeth Cymraeg. Os am gefnogi safiad Jamie, peidiwch derbyn gohebiaeth uniaith Saesneg, yn hytrach, dychwelwch e yn syth."
"Mae Jamie wedi gwneud safiad ac yn dilyn esiampl nifer o bobl eraill, gan gynnwys Eileen Beasley a fu farw dros y penwythnos. Mae'n dal i wneud safiad oddi fewn i'r carchar ond dim ond hyn a hyn all Jamie wneud o'i gell felly mae'n bryd nawr i sawl sydd a'r grym i allu i wneud safiad dros Jamie a'r holl garcharorion Cymraeg yng Nghymru."
Cafodd Jamie Bevan ei ddedfrydu i 35 diwrnod yn y carchar gan ynadon Merthyr Tudful y bore yma am wrthod talu dirwy a orchmynnwyd iddo ei dalu mewn gohebiaeth uniaith Saesneg.
Cafodd Jamie Bevan o Ferthyr Tudful ei erlyn am iddo wrthod talu dirwy a osodwyd arno am ei ran yn yr ymgyrch yn erbyn toriadau i S4C. Defnyddiodd yr achos i brotestio yn erbyn yr ohebiaeth uniaith Saesneg oddi wrth y llysoedd.
Daw'r newyddion wedi'r cyhoeddiad am farwolaeth Eileen Beasley, un o'r ymgyrchwyr cyntaf i fynd i'r llysoedd er mwyn cael statws cyfartal i'r Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon y "cydymdeimlad dwysaf gyda theulu Eileen Beasley yn eu colled fawr". Rhoddodd y Gymdeithas dernged iddi mewn cyfarfod ac uned arbennig ar faes yr Eisteddfod eleni.
Dywedodd Angharad Tomos, cyn-Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a drefnodd y deyrnged i'r teulu yn y Steddfod:
"Mae ein dyled yn ddwfn iddi fel mam gweithredu uniongyrchol. Pan nad oedd cynsail i weithredu o'r fath yng Nghymru, dangosodd Eileen Beasley y ffordd, a dyfalbarhau yn unigrwydd ei gobaith. Yfory bydd Jamie Bevan yn Llys Ynadon Merthyr*, a dyna'r cyfle cyntaf i aelodau Cymdeithas yr Iaith ddod ynghyd i gario fflam Eileen Beasley ymlaen."
Ym mis Mehefin 2006 cafodd Eileen Beasley ei hanrhydeddu yn Aberystwyth mewn seremoni arbennig yn ystod 'Gwyl Fawr Deddf iaith' Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dan arweiniad y diweddar Athro. Hywel Teifi Edwards (gweler fideo ar y dde).
Mae ymgyrchydd iaith wedi derbyn gorchymyn llys uniaith Saesneg, hanner can mlynedd wedi i'r un digwyddiad arwain at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Sadwrn Awst 4ydd). Daw'r newyddion ar yr un dyddiad a gafodd y mudiad ei sefydlu ym Mhontarddulais ym 1962.
Ar Awst 13 eleni, fe fydd yr ymgyrchydd iaith Jamie Bevan o flaen y llys am beidio talu dirwy yn gysylltiedig ag ymgyrch dros S4C. Er iddo gwyno 3 gwaith am ohebiaeth uniaith Saesneg gan Wasanaeth y Llysoedd, fe gafodd orchymyn llys uniaith Saesneg.
Wrth reidio ei feic yn Aberystwyth yn 1962, fe gafodd Gareth Miles ei erlyn am iddo gario rhywun arall ar y beic a derbyniodd gwys uniaith Saesneg: un o'r digwyddiadau a'i sbardunodd ef ac eraill i ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Fe geir areithiau am y mater ym mharti pen-blwydd y Gymdeithas yn 50 ar faes yr Eisteddfod heddiw. Dywed y mudiad y dylai'r digwyddiad ein hatgoffa o'r angen i ymgyrchu mewn nifer o ffyrdd dros y Gymraeg. Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Er bod nifer o enillion wedi deillio o ymgyrchu dros y 50 mlynedd diwethaf, mae'r modd mae'r llysoedd wedi trin Jamie a'r Gymraeg yn dangos nad yw'r frwydr drosodd. Mae angen trawsnewid agweddau a'r drefn os yw'r iaith i fyw. Mae'r slogan 'Rhaid i bopeth newid' mor wir ag erioed.
"Wedi 50 mlynedd, dyma orfod mynd unwaith eto trwy'r weithred o wrthod y 'gorchymynion llys' a roddodd gychwyn i weithredoedd y Gymdeithas. Er bod buddugoliaethau wedi'u hennill, rhaid i ni o hyn ymlaen fynnu newid llwyr yn y drefn yn lle consesiynau unigol y gellir eu gwrthdroi.
"Nid yw'r Mesur Iaith diweddar yn clymu Adrannau'r Goron sydd tan awdurdod Llywodraeth San Steffan a gall Adrannau'n ymwneud â'r Gyfraith a budd-daliadau anwybyddu'r iaith. Galwn ar Lywodraeth Cymru i sefyll lan yn erbyn San Steffan a mynnu parch i'r iaith. Yn rhy aml yn y sector cyhoeddus bodlonir gofynion Cynlluniau Iaith os darperir fersiwn Gymraeg o ffurflenni ar gais arbennig. Galwn ar bobl Cymru i beidio â gwneud cais arbennig am ddogfennau Cymraeg ond eu mynnu."
Mae siop sglodion yng Nghas-gwent wedi agor ei drysau ar ei newydd-wedd heddiw fel y siop Gymraeg gyntaf i bobl ei chyrraedd yng Nghymru. Daw hyn fel rhan o ddathliadau hanner can mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mewn partneriaeth gyda'r mudiad iaith, mae siop sglodion yng nghanol tref Cas-gwent "Sgwar Beaufort" wedi gosod arwyddion dwyieithog ac yn annog staff a chwsmeriaid i ddefnyddio'r iaith. Mae perchnogion yn honni mai dyma'r siop Gymraeg gyntaf yng Nghymru, gan ei fod yn ychydig cannoedd o lathau o'r ffin gyda Lloegr.
Yn ôl y trefnwyr byddai croeso arbennig i'r cyn-Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan a ddywedodd pum mlynedd yn ôl na fyddai'n ymarferol i bobl ofyn i "archebu bwyd yn Gymraeg mewn siop pysgod a sglodion yng Nghas-gwent". Fe ddaeth y dyfyniad yn lled-adnabyddus fel dadl yn erbyn Deddf Iaith Gymraeg newydd, deddf a basiwyd y llynedd.
Yn ôl Keith Beynon, dysgwr Cymraeg sydd yn rhedeg siop sglodion "Sgwar Beaufort" gyda'i wraig Sarah, maen nhw'n gweld y Gymraeg fel mantais i'r busnes:
"Rydyn ni'n hynod o falch o'n Cymreictod a'r Gymraeg yn ardal yma. Dyn ni'n bwriadu cael holl arwyddion y siop yn gwbl ddwyieithog. Ry'n ni'n llai na milltir o'r ffin gyda Lloegr, ond ry'n ni'n gweld y Gymraeg fel mantais fawr i'r dref. Sdim rheswm pam na allai pob siop wneud e. Gobeithio gwelwn ni Rhodri Morgan yn dod mewn rhyw ben i brynu sglods gyda ni!
"Hoffwn ddiolch i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am eu hagwedd bositif a'u cydweithrediad wrth i ni ddwyieithogi'r siop. Rwy'n hynod o falch eu bod nhw, fel mudiad, yn gweld y Gymraeg fel iaith sy'n berthnasol i bob ardal a pherson. Achos dyna sut dwi'n gweld yr iaith, etifeddiaeth unigryw i bob person sydd yn dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw."
Mae ymgyrchwyr iaith wedi rhybuddio y gallai ymrwymiad cyrff cyhoeddus i'r Gymraeg gael ei israddio fel canlyniad i ddeddfwriaeth newydd yn ymwneud â datblygu cynaliadwy.
Mae'r Gweinidog Amgylchedd John Griffiths yn paratoi i gyflwyno Bil y flwyddyn nesaf a fyddai'n gwneud datblygu cynaliadwy yn 'prif egwyddor drefniadol' ar gyfer penderfyniadau strategol cyrff cyhoeddus. Wrth ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil, mae'r Gymdeithas wedi rhybuddio bod y cynlluniau yn awgrymu na fydd lles y Gymraeg yn rhan o'r diffiniad statudol o ddatblygu cynaliadwy yn y Bil.
Prydera'r mudiad bod y cynlluniau cynnar yn groes i ymrwymiad yn strategaeth iaith y Llywodraeth i "Prif ffrydio'r iaith o fewn ein holl waith sy'n ymwneud â chefnogi a datblygu cymunedau ledled Cymru."
Yn ei ymateb i'r ymgynghoriad, medd y mudiad:"Mae'r Llywodraeth am wneud datblygu cynaliadwy yn "brif flaenoriaeth y dylid seilio penderfyniadau arni" a'r "prif egwyddor drefniadol". Yn y cyd-destun hwnnw felly, mae'n hanfodol bod lles y Gymraeg yn rhan o ddiffiniad statudol datblygu cynaliadwy. Credwn hefyd ei fod yn bwysig bod y ddyletswydd yn un glir sydd yn golygu bod angen cyflawni dros y Gymraeg yn hytrach nag ei hystyried yn unig.
"Mae'r ddogfen yn sôn am ei wneud yn ofynnol i sefydliadau penodol weithredu'n gyson â'r egwyddorion datblygu cynaliadwy. Heblaw i'r Gymraeg fod yn rhan annatod o hynny, mae yna berygl y bydd cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill yn israddio eu hymrwymiadau i'r Gymraeg. Gan nad yw'r Gymraeg yn cael ei gosod fel egwyddor o ddatblygu cynaliadwy bydd sefydliadau yn cael yr argraff nad yw'r Gymraeg yn rhywbeth hanfodol ond yn rhywbeth ymylol. Er mwyn cael ei chymryd o ddifrif felly, rhaid i'r Gymraeg fod yn rhan greiddiol o'r diffiniad o gynaladwyedd a geir yn y ddeddfwriaeth.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at gr?p y Co-operative yn gofyn am gyfarfod i drafod ei bolisi iaith Gymraeg yn sgil y newyddion y byddan nhw'n prynu nifer o ganghennau Banc y Lloyds yng Nghymru
"Mae'r Co-op yn honni ei fod yn gwmni moesegol, ond rydym wedi derbyn nifer o gwynion am ei wasanaeth Cymraeg diffygiol dros y blynyddoedd. Wrth iddyn nhw ddechrau ymyrryd mwy â'r sector ariannol, mae'n ddyletswydd arnyn nhw fel cwmni â moesau cadarn i ddarparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn. Gobeithio y byddan nhw'n cytuno i gwrdd â ni yn y dyfodol agos i drafod sut y maent yn mynd i drin y Gymraeg - sydd bellach yn iaith swyddogol yng Nghymru - efo parch."
Mae Cymdeithas yr Iaith yn llongyfarch Gareth Jones, comisiynydd addysg Môn, am ei barodrwydd i wrando ac i roi gobaith newydd i gymunedau pentrefol Cymraeg o ran dyfodol eu hysgolion.
Mae wedi cyhoeddi wrth rieni Ysgol Talwrn y bydd yn ystyried o newydd opsiynau creadigol ar gyfer Talwrn a'i fod o blaid trefn newydd i hybu ysgolion a chymunedau pentrefol.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu cynhadledd genedlaethol yn yr hydref i drafod trefn newydd o gyllido addysg wledig. Llongyfarchwn hefyd rieni Talwrn am roi arweiniad a gobaith i gymunedau eraill.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'r newyddion bod mudiad iaith newydd wedi'i sefydlu.
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Bethan Williams:
"Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda'r mudiad iaith newydd. Gobeithio y bydd y mudiad newydd yn ymuno â'r rhwydwaith o fudiadau iaith sydd eisoes ar waith - Mudiadau Dathlu'r Gymraeg. Mae'r grwp ymbarél yna wedi sefydlu Grwp Trawsbleidiol dros y Gymraeg yn y Cynulliad eleni ac yn gwneud gwaith ardderchog yn pwyso ar wleidyddion y gallai'r mudiad newydd ychwanegu ato."
Cadarnhaodd Cymdeithas yr Iaith ei fwriad, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, i sefydlu Uned Cyswllt i'r Cynulliad, ac ei fod yn anelu at gyflogi arweinydd i'r uned honno ar ddechrau tymor nesaf y Cynulliad. Bydd y swyddog yn cyd-weithio gyda swyddog cyfathrebu a lob?o presennol y Gymdeithas er mwyn adeiladu ar yr ymgyrchu yn y Cynulliad a deddfwrfeydd eraill mae gr?p yn ei wneud eisoes.
Mae tocynnau gigs Eisteddfod y Gymdeithas wedi mynd ar werth heddiw, gyda threfnwyr yn dweud eu bod wedi cyfuno'r lle rhataf i aros yn ystod y brifwyl gyda'r lein-yp gorau.
Mewn partneriaeth gyda Chlwb Rygbi Llanilltud Fawr, mae'r mudiad wedi sicrhau bod Eisteddfodwyr yn gallu aros mewn pabell am £6 y noson gyda 10% oddi ar bris diodydd i'r rhai sy'n gwersylla.
Mae lein-yp gigs y mudiad yn y Clwb Rygbi yn cynnwys rhai o artistiaid gorau Cymru megis Meic Stevens, Jess, Yr Ods, Y Bandana, Steve Eaves, Mr Huw, Huw M a Lleuwen yn ogystal â noson yng nghwmni Tudur Owen gyda gwestai arbennig i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas.
Meddai Alun Reynolds, Swyddog Adloniant y Gymdeithas:
"Rydyn ni'n gallu cynnig y ddêl arbennig hon trwy weithio mewn partneriaeth gyda phobl leol. Mae £6 y noson am lety yn ystod yr Eisteddfod yn rhad iawn. Bydd hwn yn hwb economaidd go iawn i Lanilltud Fawr ac yn hwb hefyd i'r Gymraeg yn lleol. Trwy weithio gyda phobl leol rydyn ni wedi sicrhau bod hwyl a sbri'r Eisteddfod reit yng nghanol y gymuned.'
"Mae'n gyffrous iawn i allu cynnal wythnos gyfan o nosweithiau gyda rhai o artistiaid blaenaf y sin Gymraeg yn cefnogi rhai o brif syniadau'r Gymdeithas. Byddwn nid yn unig yn edrych nôl ar hanner can mlynedd gyntaf Cymdeithas ond yn galw ar bobol edrych tuag at y dyfodol wrth i ni wynebu'r her ein hiaith yn ein cymunedau."
Mae tocynnau ar werth ar-lein ar www.cymdeithas.org/steddfod ac mae Eisteddfodwyr yn gallu cadw lle ar y maes gwersylla trwy ffonio 02920 486469.
Arweinydd Uned Cyswllt i'r Cynulliad (10 awr yr wythnos i ddechrau)
Bydd yn cydlynu gwaith yr uned, yn atebol i'r Swyddog Cyfathrebu a Lobio ac yn cydweithio yn agos â swyddogion a gwirfoddolwyr eraill y mudiad i sefydlu Uned Gyswllt â'r Cynulliad er mwyn ffurfio, dylanwadu a phwyso am bolisïau a deddfau mewn meysydd sydd yn gyfrifoldeb i'r Cynulliad Cenedlaethol ac yn ymwneud yn benodol â'r iaith Gymraeg, addysg, gwasanaethau digidol a chymunedau Cymru.
Anfonwch eich llythyr cais erbyn Dydd Gwener Mehefin 29
Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ystafell 5, Y Cambria, Aberystwyth SY23 2AZ neu trwy e-bost post@cymdeithas.org
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'r newyddion y bydd dyletswydd statudol ar y Cynulliad i gyhoeddi Cofnod cwbl ddwyieithog o'i sesiynau llawn yn dilyn pleidlais ar y Bil Ieithoedd Swyddogol heddiw.
Fodd bynnag, mae'r mudiad wedi galw ar i ACau wneud rhagor o newidiadau i'r Bil Ieithoedd Swyddogol i sicrhau bod cofnod o holl drafodion y Cynulliad yn cael ei gyhoeddi yn llawn yn Gymraeg ar yr un pryd â'r Saesneg. Mae'r mudiad yn dadlau bod cyhoeddi dogfen yn y ddwy iaith ar yr un pryd yn ofyniad sylfaenol ac yn egwyddor bwysig sydd wedi ei hen sefydlu yng Nghymru, ac felly ni ddylai'r Cynulliad ei thanseilio.
Dywedodd Ceri Phillips, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n croesawu'r newidiadau i'r Bil - mae ymgyrch dorfol y Gymdeithas wedi dechrau dwyn ffrwyth. Wedi dweud hynny, rydym wedi ein siomi nad oedd cefnogaeth i welliannau Suzy Davies ac Aled Roberts - gwelliannau a fyddai'n sicrhau bod yr holl drafodion ar gael yn Gymraeg ac y byddai fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd. Felly, fe fyddwn ni'n parhau gyda'n hymgyrch i wella'r Bil dros y cyfnod craffu nesaf."
"Mae dogfennau ein deddfwrfa yn hollbwysig nid yn unig o safbwynt hawliau moesol pobl i ddefnyddio'r Gymraeg - ac yn hollbwysig, statws y Gymraeg fel iaith swyddogol - ond hefyd i gorpws iaith y Gymraeg. Mae teclynnau arlein Google Translate, Cysill ac eraill yn elwa o'r corpws iaith a ddatblygir gan y Cynulliad. Felly, maen nhw'n cael effaith uniongyrchol positif ar ddefnydd yr iaith."
"Nid oes amheuaeth bod gan y Cynulliad record wael ar faterion Cymraeg yn ddiweddar. Dros y 3 blynedd diwethaf, mae buddsoddiad yn y Gymraeg gan Gomisiwn y Cynulliad wedi gostwng o dros 14%, tra bod y gyllideb yn gyffredinol wedi cynyddu'n sylweddol. Am 17 mis mi oedd y Cynulliad yn torri ei gynllun iaith, ac mae defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad yn isel. Dylai hynny fod yn fater o embaras i'n deddfwrfa genedlaethol. Nid ydym yn derbyn y sylwadau gan rai gwleidyddion sy'n awgrymu mai dewis rhwng cyfieithu a defnydd yw hyn. Mae digon o ymchwil yn profi bod statws iaith leiafrifol yn effeithio'n uniongyrchol ar ei defnydd. Dyna pam mae angen cryfhau'r Bil a'r Cynllun arfaethedig yn bellach."
Mae'r mudiad hefyd wedi croesawu cefnogaeth y Cyng. Dyfrig Jones a Meirion Prys Jones, cyn-brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, i'r alwad dros newidiadau pellach i'r Bil.
Cafodd cannoedd o gwynion am ddiffyg gwasanaethau yn y Gymraeg eu cyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws ar faes yr Eisteddfod heddiw.
Argraffwyd rhestr o gwynion a'u cyhoeddi mewn dogfen o'r enw 'Y Llyfr Du' sydd gyda chwynion wedi eu hel at eu gilydd gan bobl ar hyd a lled Cymru. Casglwyd mwyafrif o'r cwynion drwy'r we a chynllun cardiau post. Ceir amrywiad o gwynion e.e. o gwmni BT i broblemau gyda chofrestru priodas yn y Gymraeg. Gweler yn y llyfr gwyn gan actifydd Iaith o Ferthyr Tudful, Jamie Bevan, a geisiodd siarad â heddwas yn Gymraeg, derbyniodd yr ymateb hwn "So you're refusing to speak English are you? Then, I'm arresting you for wasting police time". Gwaeddodd aelod o staff siop ffonau symudol O2 ar Lewys Aaron "English" ar ôl iddo geisio dechrau sgwrs yn y Gymraeg.
Yn siarad cyn cyflwyno'r llyfr i Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws ar y cyd ac AS lleol Hywel Williams, Dr Jerry Hunter, Judith Humphreys, dywed Ceri Phillips llefarydd hawliau'r Mudiad:
"Yr hyn a ddangosai'r llyfr hwn, ydy bod rhaid i agweddau sydd yn ymwneud â'r Iaith Gymraeg newid, a hynny yn gyflym os ydym eisiau i'r Iaith barhau. Does dim esgus ein bod ni fel pobl Cymru yn parhau i dderbyn rhagfarn o ddydd i ddydd am siarad Iaith ein mamwlad. Prif ddiben y Llyfr Du ydy i roi llais a llwyfan i bobl wneud eu profiadau yn gyhoeddus gan dynnu sylw at arferion gwael a'r anghyfiawnder a dderbynia pobl Cymru am geisio byw eu bywydau trwy'r cyfrwng Gymraeg. Bwriadwn gyhoeddi dogfen debyg yn flynyddol, gan gyhoeddi neges glir yn datgan y dylai'r Gymraeg fod yn bresennol a chanolog ymhob rhan o fywyd, nid rhywbeth atodol, ond ffordd o fyw"
"Wrth draddodi darlith Tynged yr Iaith 2, sydd yn sail i'n hymgyrchu, fe wnaethom ddweud ein bod am weld y Gymraeg fel iaith fyw y gall unrhyw un ei defnyddio o ddydd i ddydd. Mae'r Llyfr Du yn dangos mor bell ohoni yr ydym mewn gwirionedd a chymaint sydd angen ei wneud eto, ceir dystiolaeth glir bod y Gymraeg yn parhau yn ymylol ymysg sefydliadau a chwmnïau."
Ychwanega Dr Jerry Hunter o Brifysgol Bangor:
"Dwi'n gobeithio y bydd haneswyr y dyfodol yn ystyried y cyfnod hwn fel carreg filltir yn hanes yr Iaith Gymraeg. Wedi'r cwbl mae'r Mesur Iaith yn datgan bod gan y Gymraeg statws swyddogol ac mae'r Comisiynydd Iaith gyntaf wedi'i benodi. Ond er mwyn sicrhau bod y cyfnod newydd hwnnw yn gwawrio bydd yn rhaid i'r Comisiynydd, Meri Huws wireddu'r addewid a defnyddio'r pwerau sydd ganddi yn llawn er mwyn gweddnewid y sefyllfa. Mae'r Llyfr Du, Cymdeithas yr Iaith yn ein hatgoffa ni o'r ffaith bod llawer o Gyrff, sefydliadau a busnesau yn diystyru'r Gymraeg o hyd. Mae'n atgoffa'r Comisiynydd Iaith o'r her sy'n ei wynebu/ Dwi'n dymuno'n dda i Meri Huws, Comisiynydd Iaith gyntaf Cymru, ac yn gobeithio y bydd hi'n gwireddu'r addewid. Dyma obeithio y bydd Cymry'r dyfodol yn ystyried problemau a'r anghyfiawnder a gofnodir yn y Llyfr Du fel rhywbeth sy'n perthyn i'w gorffennol nhw yn unig"
Mae'r mudiad yn bwriadu cyhoeddi Llyfr Du'n flynyddol ac yn annog unigolion i rannu eu sylwadau am wasanaethau Cymraeg ar blemaergymraeg.crowdmap.com.
Lansiodd Dafydd Iwan daith hanesyddol ymgyrchwyr iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.
Bydd 'ambiwlans' arbennig Cymdeithas yr Iaith yn mynd ar daith Tynged yr Iaith - sydd wedi'i enwi ar ôl darlith enwog Saunders Lewis - ar hyd yr wlad gan ymweld â nifer o gymunedau. Lleoliad cyntaf y daith fydd maes Sioe Ogwen a bydd yn daith yn parhau i leoliad ar draws y Gogledd cyn mynd am Bowys, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ar ei ffordd i faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg. Bydd y daith hefyd yn ymweld â Phontrhydfendigaid yn ystod Gwyl 50 ar benwythnos y 13eg a'r 14eg o Orffennaf.
Un o fwriadau'r daith, sydd yn rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymrage, yw i sefydlu cynghrair o gymunedau Cymraeg fydd yn gallu lobio dros ddyfodol yr iaith ar lefel leol.
Meddai Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: "Rydym i gyd yn gwybod fod y Gymraeg yn dirywio fel iaith gymunedol am nifer o resymau ac er fod yr hanner can mlynedd diwethaf o ymgyrchu wedi golygu fod rhyw fath o ddyfodol i'r Gymraeg mae her yn ein wynebu nawr i sicrhau mai dyfodol fel cyfrwng naturiol ar lawr gwlad yw hi.
"Mae gan bob cymuned yng Nghymru botensial o fod yn gymuned Gymraeg ond dim ond drwy uno gyda'n gilydd fel cymunedau y gallwn ni siarad ag un llais yn erbyn y bygythiadau yma i'n cymunedau a thros weledigaeth amgen."
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Hoffwn felly ymestyn cyfle i bawb sydd yn poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg i ymuno â ni ar y daith. Mae angen gwaith yn ein cymunedau er mwyn adnabod yr heriau go iawn a gweld beth gallwn ni wneud amdanynt."
Fe lansiodd ymgyrchwyr gerdyn post i anfon at Brif Weinidog Cymru yn gwrthwynebu ei bolisi niwclear ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.
Mae'r grwpiau ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a PAWB (Pobl Atal Wylfa B) yn galw ar i Carwyn Jones 'gallio' a gwrth-droi ei benderfyniad diweddar i gefnogi adeiladu adweithyddion niwclear newydd yn y wlad. Mae'r ymgyrchwyr yn dadlau y byddai effaith andwyol ar yr iaith a'r amgylchedd o gefnogi ynni niwclear.
Yn siarad cyn y brotest, dywedodd Menna Machreth, llefarydd Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Byddwn ni'n annog pawb i arwyddo un o'r cardiau dros yr haf. Mae yna opsiynau eraill sut i wneud egni, sef egni gwyrdd, opsiwn a allai olygu ffyniant economaidd i'r Ynys yn hytrach nag aros mewn tlodi fel ar ôl yr Wylfa bresennol. Mae angen i Carwyn Jones sylweddoli bod angen edrych i'r dyfodol gwyrdd yn hytrach na hen dechnoleg mae cymaint o wledydd eraill wedi troi cefn arni.
"Wylfa B fydd hoelen olaf yn arch yr iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Mae'r cyfrifiad nesaf yn mynd i ddangos dirywiad pellach yn y canran sy'n siarad Cymraeg yn yr ardal, a byddai mewnlifiad o 16,000 o bobl ar ben hynny yn andwyol i'r iaith a'i chymunedau ar yr ynys. Yr un hen hanes geir yma eto - Llywodraeth Prydain yn dweud gall cwmni preifat ddefnyddio'n adnoddau fel y mynnant, ond y tro yma mae gyda nhw Carwyn Jones yn eu cefnogi."
Ar ran PAWB, Pobl Atal Wylfa B, dywedodd Dylan Morgan:
"Yn sgil trychineb niwclear dychrynllyd Fukushima, mae gwlad ar ôl gwlad yn Ewrop wedi dewis cefnu ar ynni niwclear. Dyna hanes yr Almaen, yr Eidal, y Swistir, Gwlad Belg, ac mae arwyddion bod Ffrainc hyd yn oed yn mynd i leihau ei dibyniaeth ar ynni niwclear. Mae'n anodd deall pam bod Llywodraeth Glymblaid San Steffan yn dal i gefnogi codi gorsafoedd niwclear newydd. Anoddach byth yw deall pam bod Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru yn mynnu cefnogi'n wasaidd safbwynt Llywodraeth San Steffan ar y dechnoleg ddrutaf bosibl sy'n fygythiad i amgylchedd, tir, iaith ac iechyd pobl Cymru."
Datgelwyd lluniau "ambiwlans" arbennig heddiw a fydd yn cludo ymgyrchwyr iaith o gwmpas y wlad fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Bydd taith "Tynged yr Iaith", a enwyd ar ôl anerchiad gan Saunders Lewis ac a sbardunodd sefydlu'r mudiad iaith, yn dechrau ar y daith o faes Eisteddfod yr Urdd ac yn trafod yr heriau i ddyfodol yr iaith ar lefel gymunedol.
Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg - gostyngiad o 92 yn 1991 i 54 yn 2001 - ac mae'r mudiad yn mynd i roi prif ffocws eu gwaith ar weithio gyda chymunedau i wyrdroi'r cwymp hynny.
Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'r hanner can mlynedd diwethaf wedi golygu fod rhyw fath o ddyfodol i'r Gymraeg ac felly nawr rydym yn gofyn pa fath o ddyfodol fydd i'r iaith. Er bod mwy yn derbyn addysg gyfrwng Gymraeg nid ydynt yn cael eu harfogi i ddefnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng naturiol.
"Hoffwn felly ymestyn cyfle i bawb sydd yn poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg i ymuno â ni ar y daith. Rydym am weld y Gymraeg fel iaith dydd i ddydd ein cymunedau ac er mwyn sicrhau hynny mae angen i bawb - o'n cynghorau cymuned reit lan i'r Cynulliad - ddeffro i'r her. Mae angen gwaith yn ein cymunedau er mwyn adnabod yr heriau go iawn a gweld beth gallwn ni wneud amdanynt, yn ogystal â gwthio i drawsnewid ein polisïau economaidd a chynllunio i sicrhau dyfodol llewyrchus iddi yn ein cymunedau. Gobeithiwn y bydd y daith yn hybu trafodaeth ac ymwybyddiaeth o'r her."
Mae'r Gymdeithas yn annog grwpiau cymunedol a fyddai â diddordeb yn y daith a threfnu digwyddiadau i gysylltu â nhw ar post@cymdeithas.org . Ychwanegodd Ms Williams:
"Byddwn yn cynnig Cymorth Cyntaf i'n cymunedau ar yr 'ambiwlans'. Y camau cyntaf fydd i adnabod yr heriau penodol ym mhob ardal cyn gallu mynd ati i weithio gyda'n cymunedau i'w trawsnewid.
"Yng Ngwlad y Basg, mae nifer o gymunedau wedi ffurfio cynghrair i annog digwyddiadau yn y Fasgeg a hefyd i lobio dros yr iaith honno. Dyna'r fath o fenter rydyn ni'n gobeithio ei hybu ar ein taith, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r problemau sydd yn ein hwynebu."
Bydd y daith yn cael ei lansio'n swyddogol gan Dafydd Iwan ar ddydd Iau (Mehefin 7fed) ar faes Eisteddfod yr Urdd. Bydd yr ambiwlans wedyn yn teithio i Sioe Ogwen ar ddydd Sadwrn 9fed Mehefin, ac ymweld â nifer o lefydd yn y Gogledd gan gynnwys Llangefni, Cemlyn, Blaenau Ffestiniog, Llanrwst, Penmachno a Wrecsam. Bydd wedyn yn teithio i Geredigion a Sir Gaerfyrddin a'r De Ddwyrain ar y ffordd i faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fro Morgannwg.
Digwyddiadau Eisteddfod yr Urdd Cymdeithas yr Iaith
"Callia Carwyn" - Ie i ynni adnewyddol, Na i niwclear
2yp Dydd Mawrth, 5ed Mehefin - Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Mi fydd Cymdeithas yr Iaith a PAWB yn lansio cerdyn post i Carwyn Jones Prif Weinidog Cymru yn gofyn iddo gallio yn ei benderfyniad diweddar i gefnogi adeiladu adweithyddion niwclear newydd yng Nghymru.
Richard Jones a Gwenda Jones, Caerdegog
Menna Machreth, Dr Carl Clowes, Dylan Edwards
Cyhoeddi Artist Diweddaraf 'Hanner Cant'
2yh Dydd Mercher, 6ed Mehefin - Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Cyhoeddi enw rhif 45 ar ein rhestr o 50 o fandiau fydd yn chwarae yng ng?yl Hanner Cant - gyda set byw ganddyn nhw ar y maes
Noson Cynghrair Cymunedau Cymru: Mentrau Cydweithredol
7.30yh Nos Fercher, 6ed Mehefin --Neuadd Goffa Pen-y-Groes, Gwynedd
Dyma gyfarfod lansio Cynghrair Cymunedau Cymru. Yn ystod y noson fe fyddwn yn canolbwyntio ar fentrau cydweithredol gyda chyflwyniadau gan grwpiau unigol a thrafodaeth panel. Hefyd, mi fydd Dr Carl Clowes yn lansio ei lyfr 'Cryfder ar y Cyd' ar y pwnc. Noddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Lansio Taith Tynged yr Iaith gyda Dafydd Iwan
2yp Dydd Iau, 7fed Mehefin - Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg byddwn yn teithio ar draws y wlad er mwyn gweithio gyda'n cymunedau i wrthdroi dirywiad cymunedau Cymraeg ac annog cymunedau i ymuno gyda Chynghrair Cymunedau Cymru er mwyn eu galluogi i lobio'n rymus dros ddyfodol ein cymunedau.
Cyflwyno Llyfr Du i Gomisiynydd y Gymraeg
2yp Dydd Gwener, 8fed Mehefin - Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Mi fydd y Gymdeithas yn cyflwyno llyfryn i Gomisiynydd y Gymraeg sy'n cynnwys enghreifftiau unigolion o'u problemau gyda gwasanaethau Cymraeg.
Meri Huws, Hywel Williams AS, Jerry Hunter, Judith Humphreys, Ceri Phillips
Gig Deffro'r Dyffryn - Bryn Fôn a'r Band
Drysau yn agor am 7.30, Nos Wener Mehefin 8fed
Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle
Bryn Fôn a'r Band, Wali Tomos, Y Rhacs
Plant £4, Oedolion £8, Teulu £20
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trefnu taith ar draws Cymru eleni i dynnu sylw at sefyllfa'r Gymraeg ar lefel gymunedol fel rhan o'n dathliadau hanner canmlwyddiant. Fe fydd y daith yn dechrau yn Eisteddfod yr Urdd yn Eryri ym Mis Mehefin eleni ac yn teithio ar draws y wlad, gan orffen yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg.
Fe ddangosodd y cyfrifiad diwethaf gwymp sylweddol yn y nifer o gymunedau lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad gan 70% o'r boblogaeth. Blaenoriaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y cyfnod nesaf fydd gwrthdroi hynny. Gobeithiwn y gallwn, ar y daith, sefydlu Cynghrair Cymunedau Cymru trwy rwydweithiau presennol a newydd er mwyn eu galluogi nhw i lobio'n rymus dros ddyfodol ein cymunedau.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y daith neu awgrymu lleoliad neu ddigwyddiad y dylen ni ymweld â nhw, cysylltwch ag Osian Jones gogledd@cymdeithas.org neu 01286 662908
06/06/12 Eisteddfod yr Urdd, Dyffryn Nantlle
Lansio Cynghrair Cymunedau Cymru: Mentrau Cydweithredol, 7.30 yh, Neuadd Goffa Penygroes (Noddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru)
07/06/12 Eisteddfod yr Urdd, Dyffryn Nantlle
Lansio Taith Tynged yr Iaith, 2 yp, Stondin Cymdeithas yr Iaith, Eisteddfod yr Urdd
09/06/12 Maes Sioe Ogwen - Ambiwlans ar gae Sioe Ogwen
13/06/12 Felinheli - Cyfarfod Cyhoeddus yn y Felin Sgwrsio gyda Aled Job, CyIG, Feliheli 70%. Gig Tom ap Dan i ddilyn 7.30.
14/06/12 Llangefni - Stondin Stryd
14/06/12 Cemlyn - Cyfarfod Cyhoeddus yng Nghapel Cemlyn i lansio Maniffesto Mon gyda Carl Clowes, Dylan Morgan, Emlyn Richards 7.30.
15/06/12 Ffestiniog - Stryd fawr am 12.30 & 7.00 yn ymweld â Pengwern Cymunedol
16/06/12 Gwyl y Can Offis, Llangadfan
19/06/12 Llanrwst 9.00 - 16.00, y farchnad, canol y dref
19/06/12 Penmachno
7.00 - Cyfarfod Cyhoeddus Neuadd Ty'n y Porth - Ceri Phillips, Meirion Llywelyn, Osian Jones
21/06/12 Ysgol Botwnnog 12.00
21/06/12 Llangwnadl
Cyfarfod Cyhoeddus yng Nghanolfan Llangwnadl efo Cyfeillion Llyn am 7.30
23/06/12 Caerdydd - Tafwyl, Castell Caerdydd
26/06/12 Dinbych Stondin Stryd 10 y bore
27/06/12 Llandrillo Stondin Stryd 10 y bore
27/06/12 Wrecsam
Cyfarfod Cyhoeddus yng Nghanolfan y Saith Seren 7.30.
30/07/12 Llangrannog Gwyl Nol a Mlaen
06/07/12 Tal-y-bont, Cyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd y Pentref, 7.30 yh
07/07/12 Aberystwyth Stondin Stryd, 10yb
Cymunedau sydd wedi ymaelodi â'r Gynghrair:
Y Parc, ger y Bala
Dyffryn Ogwen
Dyffryn Nantlle
Felinheli
Cemlyn
Saith Seren, Wrecsam
Llangwnadl
Llanwenog
Ysgubor Y Coed
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Olygydd y Western Mail yn gofyn am ymddiheuriad ffurfiol am y darn golygyddol yn y papur heddiw.
Mae'r mudiad pwyso hefyd yn sefydlu deiseb ar wefan y Cynulliad yn galw ar i bobl gefnogi argymhellion pwyllgor y Cynulliad dros sicrhau bod dogfennau swyddogol ar gael yn ddwyieithog.
Fe dorrodd Comisiwn y Cynulliad ei bolisi iaith am 17 mis ar ol diddymu Cofnod cwbl gymraeg o drafodion y Cynulliad, a dros y 3 mlynedd diwethaf, mae buddsoddiad yng ngwasanaethau Cymraeg gan y Comisiwn wedi ei dorri mewn termau real o dros 14%.
Dywedodd Ceri Phillips, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Y bore yma, rwy'n ysgrifennu at olygydd y Western Mail yn gofyn am ymddiheuriad ffurfiol gan y papur am gymryd safbwynt rhagfarnllyd tuag at y Gymraeg. Hoffwn bwysleisio ein bod yn cefnogi hawl y papur i adrodd y newyddion am y Bil Ieithoedd Swyddogol - credwn yn gryf yn rhyddid y wasg. Fodd bynnag, mae'r lein olygyddol a ymddangosodd yn y papur heddiw wedi croesi llinell, llinell na fyddai neb yn ei derbyn mewn maes cydraddoldeb arall. Mae gan y papur ohebwyr o'r safon uchaf, ond mae'r Golygydd wedi gwneud camgymeriad golygyddol enfawr. Rydym yn ffyddiog y bydd y papur yn gwneud ymddiheuriad i adfer ei hygrededd yng ngolwg pobl Cymru sydd, boed yn Gymry Cymraeg neu'n ddi-Gymraeg, yn gefnogol iawn o'r buddsoddiad yn y Gymraeg."
"Hoffwn ddiolch i'r Aelodau Cynulliad o bob plaid sydd wedi adlewyrchu'r dystiolaeth a ddaeth o'u blaenau yn ystod y trafodaethau am y Bil yn y cyfarfodydd pwyllgor. Rydym yn galw ar i bobl lofnodi'r ddeiseb rydyn ni'n sefydlu ar wefan y Cynulliad yn cefnogi argymhellion y pwyllgor. Os ydym am weld Cymru ddwyieithog mae'n rhaid gwneud y Gymraeg yn ganolog a rhan naturiol o fywyd bob dydd, nid ei hystyried fel rhywbeth ymylol neu foethusrwydd nad yw'n angenrheidiol. Mae argymhellion y pwyllgor yn gwneud hynny a byddent yn sicrhau cydraddoldeb i'r Gymraeg yn ein corff democrataidd, yn anffodus ar hyn o bryd mae Llywydd y Cynulliad Rosemary Butler yn gwrthod eu derbyn ar hyn o bryd."
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu adroddiad gan ACau sydd wedi argymell y dylid gwarantu mewn statud darparu Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion y Cynulliad
Y llynedd, dyfarnodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg bod y Comisiwn wedi bod yn torri ei gynllun iaith statudol trwy beidio â darparu'r ddogfen yn Gymraeg, sefyllfa a arweiniodd at dros 1,500 o bobl yn llofnodi deiseb.
Mae ACau wrthi'n ystyried Bil - Y Bil Ieithoedd Swyddogol - a fyddai'n newid eu polisi iaith. Dywed adroddiad y Pwyllgor Craffu:
"Rydym wedi ystyried yn ofalus iawn y dystiolaeth gan y tystion a'r Comisiynydd ynghylch a ddylid rhoi'r ddyletswydd i ddarparu Cofnod cwbl ddwyieithog (o'r Cyfarfod Llawn) ar wyneb y Bil. Rydym wedi ein hargyhoeddi ei bod yn briodol gwneud hynny. Wrth ddod i'r penderfyniad hwn, rydym wedi ystyried y dystiolaeth helaeth o blaid y dull gweithredu hwn ... rydym [hefyd] yn cytuno gyda'r rhai sydd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd symbolaidd Cofnod y Trafodion i'r iaith Gymraeg, yn enwedig o ystyried ei statws yn Gofnod swyddogol prif sefydliad democrataidd Cymru."
"Os mai bwriad Comisiwn presennol y Cynulliad yw y dylid cyhoeddi Cofnod y Trafodion yn ddwyieithog bob amser, ni welwn reswm rhesymegol pam na ddylai'r ymrwymiad ymddangos ar wyneb y Bil. Credwn fod y dull gweithredu hwn yn fwy eglur ac yn fwy sicr na phe bai ymrwymiad yn ymddangos yn y Cynllun Ieithoedd Swyddogol."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar aelodau Comisiwn y Cynulliad i wrando ar farn y pwyllgor a newid y ddeddfwriaeth arfaethedig. Fe ddywedodd Ceri Phillips, llefarydd hawliau'r mudiad:
"Rydyn ni'n croesawu'r yr elfen hon yn yr adroddiad. Ni allai'r pwyllgor fod ddim cliriach - mae'n hanfodol fod y Bil yn gwarantu bod Cofnod swyddogol o drafodaethau'r Cynulliad ar gael yn gwbl Gymraeg. Dyna beth ddywedodd Bwrdd yr Iaith, pob person a gyflwynodd tystiolaeth lafar i'r pwyllgor, rhan helaeth o'r dystiolaeth ysgrifenedig a dros fil pum cant o lofnodwyr ein deiseb. Y cwestiwn nawr ydy a fydd Rhodri Glyn Thomas AC, a'i gyd-gomisiynwyr, yn derbyn barn glir y bobl neu beidio? Does dim ffordd ganol iddyn nhw - naill ai eu bod nhw'n rhoi'r sicrwydd diamheuol mewn statud neu ddim."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio'r corff arolygu addysg ESTYN am "geisio gosod agenda gwleidyddol" trwy annog awdurdodau lleol i ad-drefnu a chau ysgolion mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis:
"Dim ond ychydig o ddyddiau sydd ers yr etholiadau lleol, ac mae'r corff anetholedig ESTYN eisoes wedi ceisio gosod yr agenda gwleidyddol trwy ddweud wrth awdurdodau lleol fod yn rhaid cau ysgolion i gael gwared a lleoedd gwag. Dyma ran o batrwm cyfoes o gyrff anetholedig yn tanseilio democratiaeth gan honni o hyd "Nad oes dewis". Gwelwn Fanciau Canolog a'r IMF yn mynnu fod llywodraethau ledled y byd yn taflu pobl allan o waith a chwtogi ar wasanaethau er mwyn ad-dalu dyledion bancwyr gan nad oes dewis. Yng Nghymru, dyma ESTYN yn mynnu fod yn rhaid tanseilio cymunedau Cymraeg a dad-sefydlogi addysg y plant ifancaf er mwyn talu'r pris."
Cyngor Caerdydd yw'r gorau ymysg cynghorau sir de Cymru yn ei gefnogaeth i'r Gymraeg tra bod Merthyr yw'r gwaethaf, yn ôl arolwg a gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Yn gynharach eleni, holwyd cyfres o gwestiynau i 12 awdurdod lleol yn ne Cymru ynghylch gweithrediad y cynghorau mewn perthynas â'r Gymraeg megis gwasanaethau Cymraeg, addysg, a sgiliau iaith staff gan aelodau'r Gymdeithas. Casnewydd a Merthyr Tudful a sgoriodd waethaf gan dderbyn marc o 20% yn unig, tra oedd Caerdydd ar y blaen gyda 64%.
Fodd bynnag, nid oedd un o'r cynghorau wedi cyrraedd y safonau a ddisgwylir o dan y Mesur Iaith newydd, yn ôl Marc Phillips cyn-gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg a ddadansoddodd yr atebion ar ran Rhanbarth Morgannwg-Gwent y Gymdeithas.
Dywedodd yr arbenigwr iaith Marc Phillips:
"Teg dweud bod yna amrywiaeth sylweddol o awdurdod i awdurdod, ac er bod un yn dangos perfformiad cryfach na'r gweddill mewn sawl agwedd, does dim un yn cynnig perfformiad sydd yn debygol o fodloni'r safonau newydd y disgwylir iddynt gael eu gosod gan y llywodraeth, trwy'r Comisiynydd, maes o law."
"Roedd 6 o'r cynghorau wedi anfon ymatebion penodol i'r holiadur. Dewisodd y 6 arall peidio ag ateb yn uniongyrchol, ond yn hytrach i anfon copi o adroddiadau monitro eu Cynllun Iaith, fel y'i cyflwynwyd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. ... mae ymateb yn y dull yma yn golygu nad yw rhai o gwestiynau'r Gymdeithas wedi cael eu hateb, ac anodd iawn yw sicrhau cymhariaeth deg a chyson rhwng y gwahanol awdurdodau yn yr un modd ag oedd yn bosibl gyda'r 6 arall."
Yn siarad am yr arolwg a gomisiynwyd gan ranbarth Morgannwg-Gwent Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, dywedodd Ceri Phillips,.llefarydd hawliau'r mudiad bod y canlyniadau yn dangos bod angen gwelliant sylweddol ymysg cynghorau yn gyffredinol:
"Mae angen gwelliant sylweddol ymgysg y cynghorau hyn yn dilyn yr etholiadau. Mae'r arolwg gan ein haelodau yn y De yn amlygu'r gwasanaethau amrywiol iawn a ddarperir gan awdurdodau lleol. Caerdydd yw'r gorau ac ar y trywydd iawn, er bod gyda nhw ffordd bell i fynd eto, tra bod Merthyr yn hollol syflaenol ac yn annerbynniol.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'r newyddion bod Radio Beca wedi derbyn trwydded i ddarlledu radio yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a gogledd Sir Benfro.
Dywedodd Adam Jones, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rwy'n falch iawn bod gan Radio Beca y drwydded newydd hon. Mae'n ddatblygiad arwyddocaol iawn. Cwrddon ni gyda swyddogion Ofcom [y rheolydd darlledu] ddoe i drafod y dirywiad yn yr allbwn Cymraeg ar y cyfryngau, a'r sefyllfa yn y Gorllewin yn benodol.
"Er bod y newyddion hwn yn bwysig, allwn ni ddim osgoi'r ffaith bod 'na nifer o gwmnïau radio sydd wedi torri yn ôl yn sylweddol ar eu horiau darlledu yn y Gymraeg ac sy'n ceisio mynd yn bellach. Rydyn ni'n gobeithio y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn edrych yn fanwl iawn ar y sefyllfa bryderus hon. Byddwn ni'n protestio tu allan i swyddfeydd Town and Country Broadcasting yn Arberth ar yr 8fed o Fai i dynnu sylw pellach at y broblem."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i bryderon Meri Huws am ei hannibyniaeth o'r Llywodraeth.
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"'Dyn ni'n cytuno'n llwyr gyda phryderon y Comisiynydd am ei hannibyniaeth. Mae'n bwynt rydyn ni wedi ei godi gyda'r Gweinidog Leighton Andrews yn barod, ac yn bwynt y gwnaethon ni ei godi droeon cyn pasio'r Mesur yn y Cynulliad ddwy flynedd yn ôl. Ni ddylai fod rhaid i'r Comisiynydd edrych dros ei hysgwydd yn poeni bod y Llywodraeth yn mynd i dorri ar yr arian sydd ar gael iddi. Fan lleiaf, mae angen cyllideb sefydlog pedair blynedd arni. Mae ein trafodaethau gyda Leighton Andrews wedi bod yn adeiladol ac roedd yn cymryd ein pryderon o ddifrif; rwy'n credu y byddai'n agored i'r syniad o wneud rhagor i sicrhau ei hannibyniaeth ymarferol, a gobeithiwn y bydd Aelodau Cynulliad hefyd yn pwyso ar y Gweinidog i sicrhau bod ganddi annibyniaeth ymarferol go iawn.
"Mae swydd Comisiynydd y Gymraeg yn hollbwysig i ddyfodol y Gymraeg, ei statws a chyfleoedd pobl i'w siarad. Mae mwyafrif helaeth pobl Cymru eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu."
Fe fydd rhagor o graffu ar y berthynas rhwng S4C a'r BBC yn dilyn y cyhoeddiad heddiw (Dydd Mawrth, Ebrill 10fed) bod cynghrair newydd yn cael ei ffurfio gan undebau a mudiadau iaith.
Daeth y grwp i fodolaeth yn sgil y bartneriaeth ymgyrchu a ffurfiwyd yn ystod y frwydr yn erbyn y toriadau i gyllideb S4C. Bwriad y grwp newydd yw i barhau i amddiffyn S4C a'i hannibyniaeth yn ogystal â goruchwylio safon y diwydiant teledu yng Nghymru. Mae aelodau y grwp yn cynnwys yr undeb BECTU, Undeb yr Ysgrifenwyr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Fe ddywedodd Madoc Roberts o'r undeb BECTU: "Mae'r grwp newydd hwn yn gyfle i gadw llygaid barcud ar safon y diwydiant teledu yng Nghymru ac i graffu a sgriwtineiddio y berthynas rhwng S4C a'r BBC. Menter gadarnhaol yw hon, gyda'r bwriad o sicrhau fod S4C yn cynnig y ddarpariaeth gorau posibl i'w gwylwyr. Bydd y grwp yn galluogi unrhyw un sydd yn pryderu am ddyfodol darlledu yng Nghymru i godi unrhyw bryder sydd ganddynt."
Mae S4C yn wynebu toriad o dros nawdeg y cant i'w grant oddi wrth Lywodraeth Prydain, ac mae BBC Cymru yn dioddef oherwydd toriadau i wasanaethau Cymreig sy'n golygu bod 120 o swyddi mewn perygl o gael eu colli yng Nghymru yn y gorfforaeth. Ychwanegodd Madoc Roberts:"Fe wnaeth y Llywodraeth Prydain addo na fyddai'r BBC yn traflyncu S4C ac na fyddai'r berthynas rhwng y ddau ddarlledwr yn gwneud niwed i safon cynhyrchu yng Nghymru. Mae'r ddau ddarlledwr yn wynebu toriadau mawr felly rydym yn awyddus iawn i sicrhau nad yw hyn yn cael effaith negyddol ar safon y cynyrchiadau."
Llynedd fe wnaeth S4C dderbyn cytundeb oedd yn golygu mai'r BBC fyddai prif ffynhonnell ariannol y sianel.
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod pryderon am y sianel o hyd: "Drwy ein hymgyrch llynedd fe wnaethom sicrhau fod rhyw fath o ddyfodol i'r sianel ond mae ei dyfodol yn ansicr o hyd. Cyfaddawd yn unig a gafwyd ar gyfer S4C felly mae'r gwaith yn parhau er mwyn sicrhau fod S4C yn parhau i gyfrannu at ddiwylliant llewyrchus a chreadigol darlledu."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dymuno'n dda i Meri Huws wrth iddi gychwyn ei swydd newydd fel y Comisiynydd cyntaf dros y Gymraeg.
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydym yn dymuno yn dda i Meri Huws yn ei swydd. Gobeithiwn y bydd yn cymryd y cyfle i wneud y newidiadau sylweddol sydd angen er lles y Gymraeg. Gyda chonsensws traws-bleidiol ac ymysg cymdeithas sifil dros sefydlu'r swydd, mae gyda hi gyfle euraidd i ddechrau o'r newydd a sicrhau fod y sytem newydd hon yn blaenoriaethu pobl.
"Er bod nifer o wendidau yn y gyfundrefn a sefydlir yn y Mesur, gydag ewyllys da ac ymroddiad clir gan y Comisiynydd a'r Llywodraeth gallan nhw wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gwahaniaeth a fydd yn galluogi pobl i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Dylem weld gwelliannau sylweddol i wasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn ogystal ag eraill megis dysgwyr a rhieni gyda phlant mewn addysg Gymraeg.
"Rydym yn disgwyl i'r Comisiynydd fod yn llais annibynnol dros y Gymraeg ac i roi buddiannau pobl Cymru yn gyntaf, yn hytrach na dilyn tueddiad yr hen Fwrdd yr Iaith, asiantaeth o'r Llywodraeth oedd yn canolbwyntio ar gyfaddawdu â busnesau a sefydliadau mawrion.
"Gobeithiwn y bydd y Comisiynydd yn sicrhau hawliau i bobl Cymru i wasanaethau Cymraeg o safon drwy osod dyletswyddau clir ac uchelgeisiol ar gyrff a chwmnïau. Mae hefyd angen iddi daclo'r camwahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg yn y gweithle, trwy sicrhau hawliau pobl i weithio yn Gymraeg. Gobeithiwn y gallwn droi sefydliadau Cymru yn ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair lle mae defnydd sylweddol o'r Gymraeg yn fewnol; mae hwn yn faes nad yw'r Cynulliad na'r Llywodraeth yn dangos arweiniad ar hyn o bryd."
Y drefn weithredu ynglyn a chyflwyno'n gwrthwynebiadau i gynnig Cyngor Gwynedd i gau Ysgol y Parc yn 2013.
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol y Parc ger Bala. Bydd unrhyw wrthwynebiad i gau yr ysgol yn golygu trosglwyddo'r mater i'r Gweinidog addysg, Leighton Andrews i'w ystyried. Byddai ddisgyblion ac athrawon yr ysgol a holl drigolion y Parc yn ddiolchgar iawn petai chi'n gallu anfon llythyr yn gwrthwynebu cau yr ysgol. manylion isod:
Mae'n rhaid i bob gwrthwynebiad gael ei dderbyn yng Nghaernarfon cyn y 5ed o Ebrill
Rhaid i bob gwrthwynebiad gael ei gyfeirio at: Dewi R Jones, Pennaeth Addysg, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH.
Rhaid i'r gwrthwynebiadau gael eu cyflwyno trwy lythyr (Ni fydd y Cyngor yn derbyn e-bost)
Cadwch gopi o bob gohebiaeth a anfonir er mwyn inni fedru gwirio fod popeth a anfonir i Gaernarfon yn cael ei drosglwyddo i sylw Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru. Byddai'n dda hefyd i chi gyflwyno llun-gopi o'ch llythyr i Rhian Yn Ysgol y Parc (cyfeiriad isod) neu swyddogion y Pwyllgor Amddiffyn.
Byddwn yn cyflwyno nifer o'r llythyrau gwrthwynebu gyda'u gilydd mewn un pecyn i'r Swyddogion Addysg yng Nghaernarfon ar ddydd Llun 3ydd Ebrill. Os cytunwch i hyn gallwch gyflwyno eich llythyr gwreiddiol (a'r llun-gopi ar wahan) trwy y blwch postio arbennig a ddarperir i'r pwrpas yn yr Ysgol. Ysgol y Parc, Parc, Y Bala, LL23 7YW. Bydd angen gwneud hyn erbyn dydd Gwener 30ain o Fawrth.
Dywedodd Leanne Wood wrth gael ei hethol yn arweinydd ar Blaid Cymru mai ein cymunedau oedd un o'r prif bethau yr oedd hi a Phlaid Cymru am frwydro drostynt. Mae bygythiad i gau unrhyw ysgol yn fygythiad real i'r gymuned felly danfonwch neges at Leanne Wood hefyd: leanne.wood@wales.gov.uk
Fe fydd pentref yng ngogledd Cymru, lle mae'r ysgol leol o dan fygythiad, yn dod yn aelod cyntaf o gynghrair newydd i lobïo dros ddyfodol cymunedau Cymraeg eu hiaith heddiw (Dydd Sadwrn, Mawrth 17).
Cymuned y Parc, ger y Bala, fydd y cyntaf i ymuno â Chynghrair Cymunedau Cymru, menter Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd yn cael ei sefydlu er mwyn galluogi nifer o gymunedau Cymraeg i lobio'n rymus dros eu dyfodol. Fe gynhelir y lansiad yn ystod Diwrnod o Brotest yn erbyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i gyhoeddi rhybudd i gau Ysgol Y Parc. Fe ddangosodd y cyfrifiad diwethaf gwymp sylweddol yn y nifer o gymunedau lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad gan dros 70% o'r boblogaeth a disgwylir i ganlyniadau Cyfrifiad nesaf ddangos yr un dueddiad.
Fe fydd y Gymdeithas yn defnyddio eu "Taith Tynged yr Iaith", sydd yn rhan o ddathliadau eu hanner canmlwyddiant, ac yn teithio ar draws Cymru eleni i dynnu sylw at sefyllfa'r Gymraeg ar lefel gymunedol ac i annog cymunedau eraill i ddod yn rhan o'r gynghrair.
Dywedodd Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Sefydlwyd Merched y Wawr yn y Parc, sydd yn enghraifft o fudiad sydd wedi mynd o nerth i nerth gan gyfrannu yn sylweddol at ein cymunedau a'r Gymraeg. Gobeithiwn y bydd y gynghrair yr ydym yn ei dechrau heddiw yn gallu codi momentwm a llais dros gymunedau Cymraeg sydd yn wynebu argyfwng. Os yw'r iaith yn mynd i barhau fel iaith ffyniannus a hyfyw, mae rhaid i ni amddiffyn a thyfu'r nifer o gymunedau Cymraeg ei hiaith."
Ychwanegodd Penri Jones, ar ran ymgyrchwyr cymunedol y Parc:
"Mae'n cymunedau gwledig cynhenid Gymraeg yn prysur brinhau a dadfeilio... mae'r ardaloedd naturiol Gymraeg ar hyn o bryd yn wynebu gwir berygl o gael eu hamddifadu o bopeth. Yr ysgol leol bron yn ddieithriad fu, ac yw, craidd y gymuned wledig a phan gollir ysgolion cefn gwlad bydd clymau eraill yn sicr o ymddatod.
"Gwelaf sefydlu'r gynghrair... yn gam hanfodol i strategaeth cynnal a chadw'r llinyn arian sy'n cysylltu'r rhwydwaith sy'n weddill. ... mae ymgais ddiweledigaeth ddiweddar Cynghorau Cymru i gau'n hysgolion bach wedi amlygu realiti'r sefyllfa. Rhaid i'r ardaloedd Cymraeg eu hiaith ffynnu os ydym am weld unrhyw ddyfodol tymor hir llwyddiannus i'r iaith a'r diwyllant Cymraeg. "Ni fedir oni heuir," medd y ddihareb. Rhaid inni barhau i hau a meithrin egin ein hardaloedd gwledig doed a ddelo."
Wrth lansio'r gynghrair, mae'r Gymdeithas wedi croesawu pleidlais unfrydol yn y Cynulliad wythnos yma yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grwp gorchwyl a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith. Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu'r grwp i edrych ar sefyllfa'r Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae Biliau cynllunio a datblygu cynaliadwy'r Llywodraeth yn cynnig cyfle i'r Llywodraeth wyrdroi'r patrwm lle mae buddiannau datblygwyr yn cymryd blaenoriaeth dros fuddiannau'r Gymraeg a'i chymunedau. Mi fyddwn yn erfyn ar y Llywodraeth dros y misoedd i ddod i dderbyn bod datblygiadau tai mewn nifer o lefydd yn y wlad yn niweidiol i'r iaith, ac ymrwymo i newid y system gynllunio i atal y patrwm hwnnw rhag parhau."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i gyhoeddiad strategaeth iaith Llywodraeth Cymru gan ddweud bod angen adnoddau ac ewyllys gwleidyddol i weithredu'r strategaeth.
Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'r weledigaeth a'r nod gyffredinol yn ddigon canmoladwy a chalonogol, ond mae angen adnoddau ac ewyllys gwleidyddol er mwyn creu newid. Yng ngwlad y Basg, maent yn buddsoddi tua phedair gwaith mwy na ni yn eu hiaith. Mae'r Gymraeg mewn perygl yn ei chymunedau: mae ystadegau'n paentio darlun argyfyngus, ac mae angen gweithredu radical iawn er mwyn trawsnewid hyn."
"Mae defnydd y Llywodraeth ei hun o'r Gymraeg angen ei gwestiynu. Mae pob ceiniog sy'n cael eu gwario gan y Llywodraeth yn cael effaith ar yr iaith. Ond, ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o wariant y Llywodraeth yn cael effaith negyddol. Mae'r gwasanaeth sifil yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Saesneg ac mae hynny'n tanseilio defnydd y Gymraeg ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae angen gweithredu ar frys i wella sgiliau iaith y gwasanaeth sifil, a chynyddu defnydd mewnol o'r Gymraeg yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf"
"Er mwyn normaleiddio'r Gymraeg mae angen iddi fod yn iaith ar gyfer pob agwedd ar fywyd. Rydyn ni'n croesawu'r datganiad yn y strategaeth ynghylch gosod dyletswyddau o ran yr iaith ar gwmniau telathrebu a thrafnidiaeth, ond mae angen hefyd deddfu ar gwmniau mawr dylanwadol fel yr archfarchnadoedd a'r banciau, lle mae'r ddarpariaeth yn dameidiog iawn ar hyn o bryd: wrth i natur gwasanaethau newid, trwy symud ar-lein er enghraifft, gwelwn ddirywiad pellach yn y ddarpariaeth Gymraeg."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb gyda siom i benderfyniad Cyngor Gwynedd i barhau gyda'r cynlluniau i gau Ysgol y Parc, er gwaethaf problemau ariannol y cynllun.
Daw'r bleidlais yn sgil penderfyniad Llywodraeth Cymru i leihau ei chyfraniad ariannol at brosiectau ysgolion newydd o 70% i 50% o 2014 ymlaen. Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu parhau gyda'r cynlluniau, er nad oes sicrwydd y bydd yr arian i gau'r ysgol ar gael iddynt.
Dywedodd llefarydd addysg y mudiad, Ffred Ffransis:
"Rydym yn gresynu at benderfyniad Cyngor Gwynedd heddiw i gadarnhau'r penderfyniad i gyhoeddi Rhybuddion Statudol i gau Ysgol Y Parc. Ar ôl cyhoeddi'r rhybudd, bydd mis ar gyfer gwrthwynebiadau a bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi cefnogaeth lawn i'r Parc ac i unrhyw gymunedau eraill ym Meirion a fyddant am frwydro yn erbyn y rhybuddion i gau eu hysgolion. Byddwn yn cyhoeddi'n fyw ar Sianel 62 nos Sul yma ein cynlluniau i gefnogi'r Parc ac i godi gwrthwynebiad eang i'r bwriad i gau'r ysgol."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio sianel deledu Cymraeg newydd - "Sianel 62" - penwythnos hon (8yh, Dydd Sul, 19eg Chwefror) fel rhan o'u dathliadau hanner canmlwyddiant.
Sianel 62 fydd y sianel Gymraeg newydd gyntaf ers 30 mlynedd pan fydd yn mynd ar yr awyr ar sianel62.com ddydd Sul yma. Bwriad y Gymdeithas yw dangos rhaglenni heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn bob nos Sul rhwng 8-10yh.
Yn ôl y trefnwyr y gobaith yw y bydd y sianel yn "llai fel Noson Lawen ac yn fwy o Noson Chwyldroadol". Mae'r Gymdeithas wedi sefydlu dau hwb i'r sianel, yng Nghaerdydd a Chaernarfon, ar gyfer y prosiect a darperir hyfforddiant ac offer i bobl sydd am gyfrannu ati.
Dywedodd Cydlynydd Sianel 62 Greg Bevan:
"Mae hwn yn brosiect nid yn unig i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas, ond hefyd yn brotest yn erbyn diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes ar hyn o bryd. Mi fydd y sianel yn cynnig llwyfan newydd i leisiau amgen ac unigryw sydd yn tueddu cael eu hanwybyddu gan y darlledwyr traddodiadol."
"Sianel 'ifanc ei naws' fydd hi a phobol gyffredin yn y gymuned fydd yn datblygu'r syniadau a chynhyrchu'r rhaglenni o dan arweinyddiaeth tîm proffesiynol. Wrth gwrs, gall sianel deledu fod yn fecanwaith dylanwadol a phwerus iawn, felly mae hwn yn gyfle digynsail i sefydlu'r strwythurau i rywbeth gall fod yn ganolog i waith y Gymdeithas am flynyddoedd i ddod. Mae llwyddiant y fenter yn ddibynnol ar bobl yn cyfrannu, felly cysylltwch gyda ni os gallwch fod o gymorth - greg@cymdeithas.org."
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Bydd y sianel yn llai fel 'Noson Lawen' ac yn fwy o Noson Chwyldroadol, gobeithio. Mae'n fenter gyffrous iawn, ac mae 'na groeso i unrhyw un gymryd rhan. Fe fydd lleisiau a chynnwys gwleidyddol a dychanol na allwch weld ar y sianeli teledu presennol. Bydd nifer o ddigwyddiadau i ddathlu ein hanner canmlwyddiant yn cael eu darlledu, gan fod y sianel yn gyfle arall i ddiolch i'r holl bobl sydd wedi ymgyrchu dros yr iaith dros y degawdau."
Disgwylir i'r darllediad cyntaf gynnwys hanes teulu Caerdegog yn Ynys Môn, clipiau comedi, Tynged yr Iaith II a cherddoriaeth gan fandiau y bydd yn perfformio yn yr ?yl Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid ym Mis Gorffennaf ymysg pethau eraill.
Fe gynhelir taith o gwmpas Cymru i dynnu sylw at y bygythiad i gymunedau Cymraeg eleni, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw (Dydd Llun, 13eg Chwefror).
Mae'r newyddion yn dod ar hanner canmlwyddiant anerchiad Saunders Lewis ar ddyfodol yr iaith - Tynged yr Iaith - a sbardunodd sefydlu'r mudiad iaith.
Fe fydd ymgyrchwyr yn gyrru bws o gwmpas y wlad ar daith - a enwir ar ôl y ddarlith enwog - i godi ymwybyddiaeth o'r her i ddyfodol yr iaith ar lefel gymunedol. Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg - gostyngiad o 92 yn 1991 i 54 yn 2001, ac mae'r mudiad yn mynd i roi prif ffocws eu gwaith ar wyrdroi'r cwymp hynny.
Bydd y daith yn dechrau ym mis Mehefin yn Eisteddfod yr Urdd yn Eryri. Mae'r Gymdeithas yn annog grwpiau cymunedol a fyddai â diddordeb yn y daith i gysylltu â nhw ar post@cymdeithas.org. Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Hoffwn ymestyn cyfle i bawb sydd yn poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg i ymuno â ni ar y daith ac awgrymu sut a lle y dylen ni ymgyrchu. Bydd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau'r Gymdeithas dros y pumdeg mlynedd ddiwethaf, ond hefyd i dynnu sylw at yr her sydd yn wynebu'r iaith ar lefel gymunedol."
"Fe wnaethon ni draddodi darlith Tynged yr Iaith 2 llynedd oedd yn dweud fod yr hanner can mlynedd diwethaf wedi golygu fod rhyw fath o ddyfodol i'r Gymraeg ac felly nawr rydym yn gofyn pa fath o ddyfodol fydd i'r iaith. Rydym am ei gweld fel iaith dydd i ddydd ein cymunedau ac er mwyn sicrhau hynny mae angen i bawb - o'n cynghorau cymuned reit lan i'r Cynulliad - sylweddoli bod angen trawsnewid ein polisïau economaidd a chynllunio i sicrhau dyfodol llewyrchus iddi yn ein cymunedau. Yng Ngwlad y Basg, mae nifer o gymunedau wedi ffurfio cynghrair i annog digwyddiadau yn y Fasgeg a hefyd i lobio dros yr iaith honno. Dyna'r fath o fenter rydyn ni'n gobeithio ei hybu ar ein taith, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r problemau sydd yn ein wynebu."
Mae'r frwydr dros ddiogelu tir teulu o Ynys Môn yn ficrocosm o'r frwydr dros gymunedau Cymraeg, dyna oedd neges rali yn erbyn datblygu atomfa niwclear newydd yn y sir heddiw.
Fe wnaeth Richard Jones, aelod o deulu Caerdegog a ffermwr lleol sy'n wynebu colli tir oherwydd yr atomfa newydd annerch dros 200 o brotestwyr yn Llangefni yn rali "Nid yw Môn ar werth i Wylfa B" a drefnwyd gan PAWB (Pobl Atal Wylfa B) a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, gyda chefnogaeth Greenpeace. Mae'r teulu lleol mewn brwydr fawr â'r datblygwr Horizon sydd eisiau adeiladu Wylfa B: gallai'r cwmni orfodi'r teulu i werthu'r tir iddyn nhw ar gyfer yr orsaf niwclear newydd.
Bwriad yr ymgyrchwyr oedd dangos cefnogaeth i Richard Jones a'i deulu a chodi ymwybyddiaeth o beryglon yr orsaf niwclear i'r amgylchedd a'r iaith Gymraeg. Mae datblygwyr hefyd yn bwriadu codi 6,000 o dai ar yr ynys, ac mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhybuddio y gallai'r datblygiad fod yn "hoelen olaf yr iaith Gymraeg ar Ynys Môn", gan y bydd yn hybu mewnlifiad.
Mae'r mudiad iaith hefyd wedi codi cwestiynau am annibyniaeth yr asesiad o effaith ieithyddol y cynlluniau - asesiad a ariennir gan y datblygwyr. Yn siarad yn y rali, dywedodd Menna Machreth, llefarydd y Gymdeithas yng Ngwynedd a Môn:
"Mae hon yn frwydr ddewr gan deulu Caerdegog i gadw eu bywoliaeth a'u cartref rhag cwmni enfawr - gan wrthod rhoi caniatâd i Horizon archwilio tir y fferm. Bu'r fferm ym meddiant y teulu ers saith cenhedlaeth, a'r bwriad yw i Owain, mab y fferm i barhau â'r gwaith. Pe bai Horizon yn llwyddo i brynu 65 erw o dir y fferm, dyna fyddai diwedd Caerdegog fel uned yn cynnig bywoliaeth. Mae eu brwydr nhw yn rhan yn annatod o'r frwydr dros ddyfodol yr iaith ar lefel gymunedol yn y sir hon."
"Mae pawb yn dweud fod yr ynys gyfan o blaid niwclear, ond dyw hynny ddim yn dal d?r. Wylfa B fydd hoelen olaf yr iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Mae'r cyfrifiad nesaf yn mynd i ddangos dirywiad pellach yn y canran sy'n siarad Cymraeg yn yr ardal, a byddai mewnlifiad o 16,000 o bobl ar ben hynny yn andwyol i'r iaith a'i chymunedau ar yr ynys. Yr un hen hanes geir yma eto - Llywodraeth Prydain yn dweud gall cwmni preifat ddefnyddio'n adnoddau fel y mynnant. Pwy sy'n diogelu teulu Caerdegog? Ble mae eu hawliau nhw i oroesi? Ble mae'r gwleidyddion sy'n sefyll lan drostyn nhw?"
"Mae yna opsiynau eraill sut i wneud egni, sef egni gwyrdd, opsiwn a allai olygu ffyniant economaidd i'r Ynys yn hytrach nag aros mewn tlodi fel ar ôl yr Wylfa presennol."
Gorfododd trychineb Fukushima i wledydd gefnu ar ynni niwclear: yn Ewrop, mae'r Almaen, yr Eidal, Gwlad Belg a'r Swistir wedi penderfynu peidio â chodi gorsafoedd niwclear newydd, a chau gorsafoedd presennol. Yn ôl y cynlluniau, fe fyddai Wylfa B yn cynhyrchu bron i bedair gwaith mwy o drydan na'r orsaf bresennol ac yn creu gwastraff dwy waith poethach a dwy waith mwy ymbelydrol, gyda'r gwastraff ar y safle am 160 o flynyddoedd."
Ar ran PAWB, ychwanegodd Dr.Carl Clowes:
"Bydd 2012 yn flwyddyn bwysig i'r ymgyrch i atal Wylfa B. Yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni, fydd hi ddim yn hawdd i Horizon godi'r cyfalaf angenrheidiol ar gyfer prosiect mor enfawr. Bydd Horizon yn cynnal ymgynghoriad cymunedol ar eu cynlluniau cyn bo hir, ond mae'r rali yn gyfle i bobl ddangos eu hochr ac i ymuno â ni, Cymdeithas yr Iaith a Greenpeace yn y gwaith o ddangos pa mor beryglus, eithriadol o ddrud, a bygythiol i iaith, diwylliant, cymuned ac amgylchedd mae ynni niwclear."
Arwyddodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards, a Rhodri Glyn Thomas Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr heddiw ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryngau yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i godi llais ar y mater.
Dywedodd Jonathan Edwards AS:
"Rydym wedi gweld yn ddiweddar gyda'r toriadau yng Nghyllideb S4C bod yn wir angen i ni gael reolaeth dros ddarlledu yng Nghymru, nid yw'n gwneud synnwyr bod y sector darlledu yng Nghymru yn agored i fygythiadau cyson gan lywodraeth nad oes arno fandad yng Nghymru"
Ategodd Rhodri Glyn Thomas AC:
"Mae darlledu yng Nghymru wedi wynebu ergyd ar ôl ergyd yn y flwyddyn diwethaf ac mae'n bryd i ni gymryd yr awenau i neud rhywbeth ynghylch y peth yn y Cynulliad."
Meddai Adam Jones, llefarydd digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n falch bod cymaint o wleidyddion a sefydliadau ar hyd a lled Cymru yn cefnogi ein hymgyrch. Mae darlledu yng Nghymru yn wynebu dyfodol trychinebus os na wnawn ni rywbeth nawr. Rydyn ni wedi gweld yn ddiweddar agwedd San Steffan tuag at ddarlledu yn y ffordd y gwnaethon nhw ddi-ystyrru pobl Cymru a phwysigrwydd y sianel wrth benderfynu ar ei dyfodol. Yr unig ffordd i atal penderfyniadau annoeth yn y dyfodol yw sicrhau nad nhw sydd yn cael penderfynu ar y materion yma. Yr hyn sydd ei angen yw datganoli cyfrifoldeb fel y gallwn ni greu strwythur gref Gymreig i ddarlledu fydd yn rhoi blaenoriaeth i'n cymunedau. Mae'n bryd nawr i'n Haelodau Cynulliad sefyll lan a mynnu bod yr holl rymoedd dros ddarlledu yn dod yma i Gymru, a phwyso ar San Steffan nes bydd hynny'n digwydd."
Mae trefnwyr Hanner Cant, yr wyl gerddorol enfawr gaiff ei chynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar y 13eg a'r 14eg o Orffennaf i nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 50, wedi cyhoeddi y bydd nifer cyfyngedig o docynnau yn mynd ar werth am bris gostyngol dydd Gwener am hanner dydd.
Nos lun, yn fyw ar raglen Lisa Gwilym ar C2 Radio Cymru, dywedodd Huw Lewis, un o drefnwyr yr wyl:
"Bydd modd rhag-archebu tocynnau i'r wyl o Fawrth 1af ymlaen am £25 yr un - pris hynod o resymol - o'n gwefan arbennig hannercant.com"
"Ond fel cynnig arbennig ac fel ymateb i'r diddordeb eithriadol yn Hanner Cant, byddwn yn rhyddhau nifer cyfyngedig o docynnau - 250 ohonynt - ddydd Gwener yma (20fed Ionawr) am hanner dydd. Bydd modd prynu'r rhain am bris arbennig o £20."
"Felly os yw dilynwyr cerddoriaeth Gymraeg am fachu ar y cyfle cyntaf i sicrhau tocyn i'r digwyddiad, sy eisoes wedi cael ei ddisgrifio fel gig mwya'r ddegawd, dylent daro draw i hannercant.com dydd Gwener yma."
Yn ogystal â'r cyhoeddiad pwysig ynglyn â thocynnau'r wyl, datgelwyd mai'r diweddaraf i ymuno â'r rhestr o artistiaid a fydd yn perfformio ym mis Gorffennaf yw'r 'Brawd Houdini' ei hun, Meic Stevens, un o gerddorion mwyaf blaenllaw Cymru ers y 1960au.
Mae trefnwyr Hanner Cant wedi bod yn cyhoeddi enw artist newydd bob wythnos ers wythnos gyntaf Awst 2011 a hwn oedd y 25ain cyhoeddiad.
Manylion cefndirol
Y Gymdeithas i "newid yn radical" yn 50 i ymateb i'r her, medd ei Chadeirydd
MAE pryder y bydd dyfodol cymunedau yn cael ei anghofio yn sgil digwyddiadau Prydeinig, yn ôl araith gan Gadeirydd y mudiad heddiw (Dydd Sadwrn, Ionawr 7fed).
Wrth i Gymdeithas yr Iaith, ddathlu ei phen-blwydd yn 50, bydd Bethan Williams, Cadeirydd y mudiad yn annerch aelodau mewn fforwm newydd - y Cyngor - heddiw (Dydd Sadwrn 7fed Ionawr) yn Aberystwyth gyda her iddynt newid.
Sefydlwyd y Gymdeithas yn sgil darlith Tynged yr Iaith Saunders Lewis, a ddarlledwyd ar Chwefror 13, 1962. Er bod Mr Lewis yn dod o safbwynt adain dde, gwrthodwyd y wleidyddiaeth honno gan sefydlwyr y Gymdeithas, sydd yn fudiad sosialaidd. Ychwanegodd Bethan Williams y bydd y Gymdeithas yn ffocysu llawer iawn mwy ar ddyfodol cymunedau Cymraeg yn y cyfnod i ddod, gan ddweud :
"Mewn blwyddyn o ddigwyddiadau Prydeinig, mae perygl y bydd dyfodol ein cymunedau yn cael ei anghofio. Ond allwn ni ddim fforddio i ddyfodol ein hiaith ar lefel gymunedol ddiflannu, gan fod y sefyllfa mor argyfyngus."
"Mae rhai pobl yn dweud fod brwydr y Gymraeg drosodd, ond nid ydym am weld y Gymraeg fel iaith ymylol, fel iaith addysg yn unig. Y llynedd, fe gyhoeddom ddarlith Tynged yr Iaith 2, yn dweud bod rhyw fath o ddyfodol i'r Gymraeg oherwydd brwydr yr hanner can mlynedd diwethaf. Nawr, wrth i ni gamu tuag at y cyfnod nesaf yn ein hymgyrchu ryn ni'n troi ein golygon at ein cymunedau, a sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw ac yn iaith ddydd-i-ddydd. Y cwestiwn mae'r ddarlith newydd yn ei gosod yw: ai diwylliant lleiafrif neu briod iaith ein cenedl fydd y Gymraeg? Felly ein her ni dros y cyfnod nesaf fydd ymateb."
Bydd hi'n dadlau y gallai strwythur Cymdeithas yr Iaith Gymraeg newid mewn ffordd 'radical' yn ystod y flwyddyn a bod angen i'r mudiad fod yn llawer mwy agored a chynhwysol yn y dyfodol. Fe fydd Ms Williams yn dweud:
"Mae hen bryd i'r Gymdeithas dderbyn bod rhaid trafod dyfodol ein mudiad, a gwneud ymdrechion pellach i sicrhau ein bod ni'n gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol posib. Mae rhaid i ni fod yn agored ac yn barod i newid er lles y Gymraeg, lle bynnag mae hynny yn ein harwain fel mudiad. Nid ydym yn fodlon gweithredu yn arwynebol fel y quangos a'r sefydliadau, sydd yn ticio blychau felly mae'n rhaid i'r broses adnewyddu hon fod yn hollol gynhwysol ac agored. Mae angen i ni ymestyn allan at bawb sy'n poeni am ddyfodol yr iaith Gymraeg, nid unrhyw clique neu ddilyn yr un hen fformiwla achos ein bod ni'n gyfforddus gyda fe."
"Mae angen i ni, fel mudiad, drafod yn agored gydag ein haelodau, cefnogwyr a phawb sy'n poeni am ddyfodol y Gymraeg a'i chymunedau sut y gallwn ni gryfhau. Mae llawer iawn wedi newid yng Nghymru dros y degawdau diwethaf, ac mae rhaid i ni fod yn barod i newid hefyd. Nid yw'r Gymdeithas erioed wedi ofni herio'r 'status quo'."
Mewn neges i aelodau ar ddechrau blwyddyn hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith mae ei chadeirydd, Bethan Williams, wedi rhybuddio y bydd canlyniadau'r Cyfrifiad - a ryddheir ym 2012 - yn tanlinellu'r argyfwng sy'n wynebu'n cymunedau Cymraeg.
Bydd dathliadau swyddogol hanner canmlwyddiant y Gymdeithas yn cychwyn fis Chwefror 50 mlwyddyn yn union ar ôl i Saunders Lewis draddodi'i ddarlith radio 'Tynged yr Iaith'. Yn ystod y misoedd diwethaf mae'r Gymdeithas wedi cyhoeddi 'Tynged yr Iaith 2' sydd yn gosod allan camau nesaf y frwydr. Esboniodd Bethan Williams:
"Oherwydd yr holl waith ac ymgyrchu dros y 50 mlynedd diwethaf, gallwn ni fod yn sicr y bydd y Gymraeg yn goroesi. Y cwestiwn yn awr yw pa fath o ddyfodol a fydd i'r iaith ? Ai iaith diwylliant lleiafrifol yn ei gwlad ei hun fydd i'r Gymraeg, neu iaith pob dydd cymunedau byw ac iaith y gellir ei defnyddio ym mhob rhan o fywyd: Ai diwylliant lleiafrif neu briod iaith ein cenedl?"
"Bydd canlyniadau'r Cyfrifiad a ryddheir yn ystod 2012 yn tanlinellu maint yr argyfwng yn ein cymunedau Cymraeg. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn rhyddhau ein cynlluniau gweithredol i geisio parhad i'r cymunedau hyn ac i helpu cymunedau eraill hefyd i gyflawni eu potensial i fod yn gymunedau Cymraeg."
Ni fydd gan Gymru ei henw fel parth ar y we oherwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru yn ôl mudiad iaith sydd wedi erfyn ar Weinidogion i newid eu meddwl heddiw.
Mewn apêl at y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Leighton Andrews, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn datgan pryder am effaith ieithyddol methu â sicrhau'r parth lefel-uchaf ".cymru" , fel '.com' neu '.uk' ar y we.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau proses dendro i ennill ei chefnogaeth swyddogol i gais am enw i Gymru ar y we. Ac er bod dogfen tendro Llywodraeth Cymru yn annog ceisiadau am enwau yn y ddwy iaith, nid oes sicrhad y llwyddiff cwmni gyda'r ddau gais o flaen y corff rhyngwladol ICANN. ICANN fydd yn penderfynu ar unrhyw gais am enw parth a gefnogir gan Lywodraeth Cymru; gyda'r gystadleuaeth ryngwladol yn dechrau o Ionawr 12fed.
Mewn pôl diweddar, ffafriodd mwyafrif yr enw ".cymru" yn hytrach na ".wales". Fodd bynnag, mae'r Prif Weinidog wedi awgrymu ei fod yn cefnogi enw Saesneg yn unig. Dywedodd Adam Jones, llefarydd digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"... gwir hanfod sicrhau parth i Gymru oedd creu ardal i gymuned ieithyddol y Gymraeg, gweler ".cat" o Gatalwnia fel enghraifft berffaith. Trwy ofyn am enw .wales byddai holl bwynt cael y parth yn cael ei golli. Fel mudiad rydym wedi ymgyrchu'n frwd dros sicrhau parth i Gymru ynghyd â mudiadau eraill... Mae felly yn peri cryn ofid i ni bod y llywodraeth wedi gwneud penderfyniad heb ymgynghori na thrafod gyda phobol Cymru."
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yn amlwg, mae presenoldeb y Gymraeg ar y we yn bwysig iawn, mae rhaid i ni sicrhau nad ydynt yn colli'r cyfle hwn i wneud ein hiaith unigryw yn un weledol yn rhyngwladol. Rydym wedi gweld agwedd negyddol tuag at yr iaith mewn gohebiaeth ddiweddar gan weision sifil yr Adran Busnes [Llywodraeth Cymru]. Ar y llaw arall, mae Leighton Andrews wedi dangos cryn gefnogaeth i ddatblygu'r iaith ar-lein. Rydyn ni'n gobeithio y bydd e'n fodlon camu mewn i achub y dydd a sicrhau bod "dot cymru" yn digwydd. Mae'n fater pwysig i statws yr iaith Gymraeg yn genedlaethol a'i delwedd ar draws y byd."
"FFARS LWYR", dyna asesiad damniol ymgyrchwyr iaith o wasanaethau Cymraeg Cyngor Merthyr, mewn cwyn swyddogol at yr arolygwr awdurdodau lleol, wedi i'r awdurdod lansio gwefan uniaith Saesneg.
Mewn llythyr at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhuddo'r Cyngor o doriadau cyson a difrifol o'i gynllun iaith. Mabwysiadodd y Cyngor ei gynllun iaith gyntaf yn ôl yn 1998, ond yn ôl y gr?p pwyso, mewn cyfarfod diweddar rhwng Cymdeithas yr Iaith a'r Cyngor cyfaddefodd swyddogion y Cyngor ei fod yn torri'r Cynllun Iaith yn rheolaidd, gyda ffurflenni, negeseuon ffôn a gohebiaeth swyddogol yn anwybyddu ymrwymiadau i ddwyieithrwydd .
Mae wedi dod i'r amlwg hefyd nad yw'r awdurdod yn adrodd ar bob gwyn ysgrifenedig oddi wrth gynghorwyr a Bwrdd yr Iaith Gymraeg gan fynnu nad yw cwynion o'r fath yn cwrdd â rheoliadau a gweithdrefnau swyddogol y Cyngor.
Mae Jamie Bevan, aelod o'r Gymdeithas sy'n byw ym Merthyr Tudful, wedi ysgrifennu'r cwyn at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
"Rydym wedi gweld addewidion am flynyddoedd y bod pethau yn gwella yn y Cyngor o ran y Gymraeg ond mae hyd yn oed adroddiad y Cyngor ei hun yn cyfaddef nad ydyw wedi cyflawni bron dim o'i gynllun Iaith. Mae'n hen bryd i Fwrdd yr Iaith mynd i'r afael a'r sefyllfa a mynnu gorchymyn o orfodaeth gan y Gweinidog. Mae'n bryder mawr nad yw un o'r cwynion rydw i a phobol eraill Merthyr wedi eu cyfeirio at y Swyddog penodol wedi'i hystyried yn gwynion swyddogol."
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'r Cyngor yn ffars lwyr - mae cymaint o'u ffurflenni yn uniaith Saesneg, ac mae'r wefan yn jôc. Aeth un o'n haelodau mewn a gofyn i wneud cwyn yn Gymraeg, ond doedd dim ffurflenni cwyno ar gael yn Gymraeg! Mae'r ffaith bod y wefan yn uniaith Saesneg yn adlewyrchu'r agwedd a methiant llwyr i gyflawni hyd yn oed y gwasanaethau Cymraeg mwyaf sylfaenol.
"Nid oes esgus gan Gyngor Merthyr. Pob blwyddyn, mae chwe chant o blant Merthyr yn mynd i Ysgol Rhydywaun ac felly yn gwbl ddwyieithog wrth iddynt adael ysgol, ond dyw'r Cyngor ddim yn gwneud defnydd o'r sgiliau hynny. Mae yna gwestiynau mawr am Fwrdd yr Iaith yn y llanast yma. Sut ydyn nhw wedi gadael i'r Cyngor bennu lan fel hyn?"
Mae'r mudiad pwyso wedi ysgrifennu at Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn gofyn iddynt gynnal ymchwiliad llawn i mewn i Gyngor Merthyr.
Wrth alw am ddatganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i nifer o gerddorion Cymru wrth iddynt fynd ar streic am y tridiau nesaf.
Meddai Bethan Williams Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Nid yn unig ein bod am weld grym dros ddarlledu yn dod yma i Gymru ond fod strwythur Gymreig a Chymraeg yn cael ei greu sydd yn blaenoriaethu ac yn gwneud yn fawr o'n cymunedau. Rydyn ni wrthi'n ceisio cael cefnogaeth trawstoriad o wleidyddion a phobl yn y diwydiant i'n galwadau drwy ofyn iddynt arwyddo ein datganiad. Mae'r ffaith fod Cymru yn cael ei hystyried yn rhanbarth o fewn y diwydiant darlledu yn codi problemau o hyd a byddai datganoli rheolaeth dros ddarlledu i Gymru yn golygu fod Cymru yn cael ei chymryd o ddifrif."
"Dylai'r BBC gefnogi a hybu cerddoriaeth Gymraeg. Gan fod y BBC yn talu cerddorion drwy y PRS (Performing Rights Society), mae cerddorion Cymraeg yn derbyn hyd at 35 gwaith llai o arian na cherddorion Saesneg, mae hynny'n warth. Yn fwy na hynny mae'n ei gwneud yn anodd iawn i wneud bywoliaeth o ganu yn Gymraeg sydd yn golygu bod llai o gerddoriaeth Gymraeg ar gael i wrandawyr."