Ffilm Separado Gruff Rhys a pherfformiad byw gan René Griffiths Caerfyrddin
Nos Wener, Mawrth 9fed
Golden Lion, Caerfyrddin, £5
- 7.30pm: Ffilm 'Munud i Ddathlu'
- 8.30pm: Ffilm Separado!
- 10pm: Rene Griffiths
Mae Separado!, sydd yn daith bersonol i Gruff Rhys, yn rhoi Patagonia mewn cyd-destun diwylliannol ehangach yn yr Ariannin, ac yn pellhau ei hun oddi wrth y ffordd ramantus o ffilmio'r Cymry ym Mhatagonia.
Bydd y ffilm yn cael ei ddangos am 8pm ar nos Wener 9fed o Fawrth yn y Golden LioN Caerfyrddin, cyn i'r seren ei hun, Rene Griffiths, roi blas ar ganeuon Latino-Geltaidd yn ei ffordd unigryw ei hun.
Fe ddywedodd Gruff Rhys, canwr pop sydd wedi ryddhau sawl albwm yn unigol ac fel rhan o'r Super Furry Animals:
"Cymerodd Separado 5 mlynedd i'w chwblhau. Y syniad oedd ceisio cyfleu delwedd wleidyddol, weledol a cherddorol gytbwys or profiad Lladin/Gymreig ym Mhatagonia. Heb os enigma barhaus Rene Griffiths sy'n gludo'r holl beth at ei gilydd, ac ef yw'r uchafbwynt cerddorol."
"Gwrandewch yn astud ar ei ganeuon a'i chwarae cywrain ar y tannau. Dyma wr unigryw, ffraeth ac arallfydol. Tyrrwch yn llu i brofi ei ddoniau athrylithgar ar y gitar, heb fod yn glust dyst gredwch chi byth!"
Mwy yn yr un categori(au):
Adloniant
|
Caerfyrddin Penfro
.
|