tafod.jpg hafan cymdeithas.org
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Heart FM yn bradychu cymunedau Cymru - galw ar OFCOM i ymyrryd

heartfm-cymraeg.jpgHeddiw mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad gorsaf radio Heart FM i symud eu canolfan ddarlledu sydd yn gwasanaethu Gwynedd a Môn o Fangor i Wrecsam.

Dywedodd Gerallt Roberts aelod o rhanbarth Gwynedd / Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

"Ers misoedd bellach mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod mewn deialog gyda swyddogion o Heart FM ynglýn a'n pryderon nad ydi'r orsaf yn adlewyrchu y gymuned y mae hi fod i wasanaeth, gan chware canran uchel iawn o ganeuon Saesneg. Teimlwn fel Cymdeithas na fydd y penderfyniad i symud canolfan ddarlledu yr orsaf o Fangor i Wrecsam yn gwneud dim i liniaru ein pryderon ynglýn a dyfodol yr orsaf fel fforwm rhanbarthol i drafod ac i adlewyrchu'r holl ystod eang o fywyd cyfrwng Cymraeg siroedd Gwynedd a Môn."

Ychwanegodd Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd:

"Mae'r penderfyniad yma yn dwyn gwarth ar honiadau Heart FM o fod yn orsaf radio gymunedol. Rydym ers misoedd lawer wedi bod yn pryderu am y gwasanaeth Cymraeg a ddarperir gan Heart FM, ni fydd y penderfyniad yma yn gneud dim i hwyluso'r gwaith o droi Heart FM yn orsaf radio cyfrwng Cymraeg i siroedd Gwynedd a Môn."

"Gofynnwn ar OFCOM i ail ystyried y drwydded a roddwyd i Heart FM, oherwydd mai hi'n amlwg erbyn hyn nad ydi'r orsaf yn cyflawni anghenion y drwydded honno. Gofynnwn hefyd ar OFCOM i sicrhau bod holl orsafoedd radio masnachol Cymru yn cynrychioli natur ieithyddol yr ardal maen nhw'n gwasanaethu, a bod OFCOM yn gwneud amod bod rhaid darparu rhaglenni a cherddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, cyn cytuno ar unrhyw drwyddedau radio masnachol newydd yng Nghymru."

Mwy yn yr un categori(au): Darlledu | Gwynedd Môn | Newyddion
.

nôl i'r brig