tafod.jpg hafan cymdeithas.org
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Carcharu Ffred Ffransis

ffred-ffransis.jpgHeddiw danfonwyd Ffred Ffransis, aelod amlwg o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, i Garchar Parc, Pen-y-Bont, am 5 diwrnod gan Lys Ynadon Llanelli. Wrth gael ei garcharu dywedodd Ffred Ffransis ei fod yn mynd i'r carchar am nad oedd unrhyw ddatblygiad o bwys wedi digwydd yn sefyllfa'r iaith ers pan gafodd ef ei arestio wyth mlynedd yn ôl am drosedd oedd dan sylw yn y llys. Heriodd yr ynadon i alw ar y Cynulliad i fynnu fod yr hawl i ddeddfu dros y Gymraeg yn cael ei drosglwyddo'n llawn o Lundain i Gaerdydd.

Ymddangosodd Ffred gerbron Llys Ynadon Llanelli am 9.45am bore heddiw. Roedd yr Achos hwn yn deillio o brotest gan Gymdeithas yr Iaith yng Nghaerdydd nol ym mis Ionawr 2001. Cafodd Ffred ddirwy o £50 a gorchymyn i dalu £50 o gostau yn dilyn protest Deddf Iaith yn Heol y Frenhines, Caerdydd ym mis Ionawr 2001.

Peintiodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith y geiriau "Deddf Iaith newydd" ar draws ffenestri siopau yn Heol y Frenhines. Daeth fan heddlu i'w cludo i ffwrdd, ond rhwystrodd nifer fawr o'r protestwyr ffordd fan yr heddlu oherwydd eu bod i gyd yn cymryd cyfrifoldeb am y weithred. Arestiwyd Ffred am rwystro'r Heddlu a derbyniodd yn Llys Ynadon Caerdydd cyfanswm o £100 o ddirwy a chostau.

Dros yr 8 mlynedd diwethaf, cafodd yr achos ei drosglwyddo i Gaerfyrddin i gasglu'r arian, mae swyddogion llys a chwmni o gasglwyr preifat wedi galw gyda Ffred - ond yn aflwyddiannus, ni chawsant yr arian.

Yn y llys gwrthododd Ffred dalu achos nad oes ar gynnig unrhyw Fesur Iaith a fydd yn newid y sefyllfa ieithyddol yn y siopau hynny y bu'r Gymdeithas yn protestio yn eu cylch 8 mlynedd yn ôl. Nid yw sefyllfa'r iaith Gymraeg wedi newid yn Stryd y Frenhines nac unrhyw brif stryd arall trwy Gymru ers 2001. Yn anffodus, nid yw'n debygol y bydd digon o rymoedd yn cael eu datganoli trwy'r Gorchymyn Iaith er mwyn galluogi'r Cynulliad i greu Mesur Iaith cryf ac ystyrlawn a fyddai'n newid sefyllfa'r iaith yn Stryd y Frenhines.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Bwyllgor Craffu'r Cynulliad (sy'n adrodd yn ol i'r Gweinidog Treftadaeth ar 4ydd Mehefin) i fynnu datganoli pwerau llawn dros yr Iaith Gymraeg heb unrhyw gyfyngiadau o Lundain i Gymru.

Ffred Ffransis yn cael ei anfon i'r carchar - Golwg360 - 01/06/2009
Carchar i brotestiwr iaith - Newyddion BBC Cymru - 01/06/2009
Carmarthenshire man jailed for language demo - Daily Post - 02/06/2009
Welsh language campaigner Ffred Ffransis jailed - Western Mail - 02/06/2009


Story in English

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Deddf Iaith | Newyddion
.

nôl i'r brig