tafod.jpg hafan cymdeithas.org
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Srategaeth yn cadarnhau fod Addysg Gymraeg yn ymylol

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu cyhoeddi Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru'n Un ond ar yr un pryd yn rhybuddio nad yw'r Llywodraeth wedi ei gwneud hi'n glir fod y Gymraeg yn sgil addysgol hanfodol.

Mae'r Strategaeth Addysg Gymraeg yn ymddangos ar ôl i'r Cynulliad gyhoeddi nifer o strategaethau eraill fel 'Cyfnod Trawsnewid: Llwybrau Dysgu 14-19 oed' a chanllawiau newydd i Awdurdodau Lleol am adrefnu addysg gynradd.

Dywedodd Ffred Ffransis, Cadeirydd Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr iaith Gymraeg:

"Mae'r Cynulliad yn trin addysg Gymraeg fel atodiad neu 'add-on' i'w polisïau addysg eraill, nid fel rhan hanfodol o addysg pob unigolyn. Maen nhw'n gofyn yn y Strategaeth i Awdurdodau Lleol wneud addysg Gymraeg yn ystyriaeth ganolog o fewn eu polisïau addysg, ond dyw'r Cynulliad heb fabwysiadu'r egwyddor hyn eu hunain fel a welwyd yn eu triniaeth ymylol o'r Gymraeg yn y mesur Llwybrau Dysgu 14-19 oed a'u canllawiau ar adrefnu addysg gynradd."

Ychwanegodd Ffred Ffransis:

"Mae'r adroddiad yn pwysleisio 'cynyddu cyfleon' i addysg Gymraeg yn y Strategaeth fel y gall pobl optio i mewn, ond dyma'r agwedd hollol anghywir wrth fynd ati i ffurfio strategaeth ar gyfer addysg Gymraeg. Rhaid i'r Gymraeg fod yn sgil addysgol hanfodol i bawb ym mhob ysgol er mwyn gallu cyflawni eu gwaith yng Nghymru a chreu gwlad ddwyieithog. Nid 'add-on' dylai addysg Gymraeg i fod."

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Newyddion
.

nôl i'r brig