|
|||||
|
|
Lansio Cyfrol gan Gwion Lewis, Hawl i'r Gymraeg, CAERDYDDAm 1 o'r gloch heddiw (Dydd Llun Awst 4) bydd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth, yn un o nifer ddaw i lansiad llyfr ar statws gyfreithiol iaith Gymraeg ym Mhabell y Gymdeithas (unedau 906 -908). Mae'r llyfr 'Hawl i'r Gymraeg' gan Gwion Lewis, sy'n un o ysgolheigion disgleiriaf ei genhedlaeth, yn edrych ar hawliau ieithyddol y Cymry Cymraeg yng nghyd-destun cyfreithiau rhyngwladol ac Ewropeaidd. Yn ei lyfr mae Gwion Lewis yn dadlau na fydd unrhyw ddeddfwriaeth yn ddigonol nes ei bod yn cydnabod ein hawl ddiymwad i siarad a defnyddio'r Gymraeg. Ei obaith yw y bydd y llyfr nerthu ac yn cryfnau yr alwad am Fesur iaith newydd. Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith fydd yn siarad yn y cyfarfod gyda gyda Cynog Dafis: "Dyma lyfr anhepgor y bydd yn rhaid i'r Gweinidog Treftadaeth ei ddarllen ar ei union a hithau yn amser tyngedfennol yn yr ymgyrch dros Fesur Iaith newydd." 1pm, Dydd Llun, 4ydd o Awst Dyma gyfrol arloesol yn ymwneud â statws a hawliau siaradwyr Cymraeg - y gyfrol gyntaf erioed i osod y Gymraeg yng nghyd-destun cyfraith rhyngwladol a chyfraith Ewrop. Cyfrol feistrolgar sy'n cyflwyno'r ddadl dros ddeddfwriaeth Gymraeg. Teitl: Hawl i'r Gymraeg Y Llyfr:Treuliodd Gwion Lewis haf 2004 ym Mhrifysgol yr Undeb Ewropeaidd yn Fflorens, yr Eidal, yn astudio'r berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a'r gyfraith. Bydd ffrwyth ei ymchwil, y gyfrol Hawl i'r Gymraeg, yn gosod y Gymraeg yn ei chyd-destun cyfreithiol, ac yn pwyso a mesur Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 o safbwynt cyfreithiau rhyngwladol ac Ewropeaidd. Yn ôl Gwion, ni fydd y ddeddfwriaeth Brydeinig yn agos at fod yn ddigonol nes ei bod yn cydnabod fod gennym fel dinasyddion hawl ddynol i siarad ein hiaith gyntaf. Mae cyfreitheg hawliau dynol Prydain yn fwy soffistigedig nag y bu erioed ers dyfodiad Deddf Hawliau Dynol 1998, a dywed Gwion fod gan y llysoedd fframwaith syniadol gadarn bellach ar gyfer ymdrin â hawliau iaith. Hyd yn hyn, nid yw'r mudiad iaith yng Nghymru wedi llawn sylweddoli potensial y teclynnau cyfreithiol hyn. Gobaith Gwion yw y bydd Hawl i'r Gymraeg yn llenwi'r bwlch, ac yn cynnig dadleuon mwy sylweddol i'r mudiad wrth i'r galw am 'ddeddf iaith newydd' gynyddu. "Mae cyhoeddi'r gyfrol hon yn ddigwyddiad o bwys... cyfrol feistrolgar sy'n cyflwyno'r ddadl fod angen i ddeddfwriaeth newydd ar gyfer y Gymraeg gael ei seilio ar hawl siaradwyr yr iaith i'w defnyddio gydag urddas." Darllenydd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwion Lewis:Ganwyd 1979 ym Mangor, Gwynedd. Magwyd yn Llangefni, Ynys Môn lle mynychodd Ysgol Gynradd Corn Hir (1984-1991) ac Ysgol Gyfun Llangefni (1991-1998). Aeth yn ei flaen i Goleg Iesu, Rhydychen, lle enillodd raddau BA a BCL (Dosbarth Cyntaf) mewn Cyfreitheg (1998-2002). Tra'n astudio ar gyfer y BCL, canolbwyntiodd ar y gyfraith gyhoeddus yn Lloegr a Ffrainc, hawliau dynol a'r gyfraith ryngwladol. Dyfarnwyd Gwobr Welson iddo am ddangos yr addewid mwyaf ymhlith y rhai a astudiai'r gyfraith yng Ngholeg Iesu ar y pryd, ac fe'i gwnaed yn un o Ysgolorion y Coleg. Mae ganddo hefyd radd LLM o Brifysgol Efrog Newydd (2003-04), lle canolbwyntiodd ar hawliau dynol rhyngwladol, hawliau iaith, a'r berthynas rhwng y gyfraith a diogelwch fel Ysgolor Fulbright ar ran llywodraethau Prydain ac America. Yn ystod ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau, sefydlodd fudiad o'r enw Legal Access Network for South Asians sy'n ceisio dod â gwasanaethau cyfreithiol o fewn cyrraedd pobl sy'n hanu o Dde Asia. Bellach, mae Gwion yn aelod o siambrau Landmark yn Llundain lle mae'n fargyfreithiwr yn arbenigo yn y gyfraith gyhoeddus, hawliau dynol a chyfraith amgylchedd. Mae'n sylwebu'n gyson ar faterion cyfreithiol a rhyngwladol ar raglenni teledu a radio ar gyfer BBC Cymru a S4C, ac ers 2006 yn un o gyfarwyddwyr yr elusen Ymyrraeth er Cyfiawnder Cymunedol Cymru. Mwy yn yr un categori(au):
Deddf Iaith
|
Eisteddfodau
|
Newyddion
| ||||||||||||||||||||||||||
nôl i'r brig | ||||