tafod.jpg hafan cymdeithas.org
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Llywodraeth y Cunulliad v Angharad Blythe

Bore 'ma es i draw i Lys Ynadon Caerdydd ar gyfer achos Llys Angharad Blythe.

Roedd Angharad o flaen ei 'gwell' am achosi difrod troseddol iBencadlys Llywodareth y Cynulliad. Ym mis Rhagfyr 2005 fe beintiodd slogan yn galw am ddeddf iaith newydd a chan fynnu parch i'r iaith.

Hwn oedd yr achos olaf o'r gyfres o weithredoedd uniongyrchol gan y Gymdeithas dros Ddeddf Iaith Newydd yn ystod 2005 - bron i wyth mis ers y weithred wreiddiol. Gohiriwyd yr achos gwreiddiol am fod yr wys a dderbyniodd i ymddangos ger bron y llys ym mis Mehefin yn uniaith Saesneg. Yr hawl i gael gwys Cymraeg oedd ymgyrch gyntaf y Gymdeithas yn 1962! Fe feiodd y barnwr yn yr achos Heddlu De Cymru am hyn a dywedodd y byddai yn anfon cwyn swyddogol atynt. Cyhuddodd yr heddlu o wyrdroi drefn gyfreithiol drwy beidio cadw at ganllawiau'r Cynllun Iaith.

Yn y llys heddiw, roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud cais o £546 + TAW o iawndal. Esboniodd Angharad nad oedd y Llywodraeth yn talu Treth ar Werth, felly pam oedden nhw yn ei hawlio. Dywedodd wrth yr Ynadon ei bod wedi gorfod disgwyl ers dros 7 mis am ddod a'r achos hwn i'r llys. Yn ei datganiad dywedodd:

"Derbyniais 3 ffurflen fechnniaeth uniaith Saesneg gan Heddlu De Cymru ac nid oedd swyddog ar gael a allai ddelio ag amodau fy mechniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu'n rhaid i mi wneud siwrnai seithug o Gaernarfon i Gaerdydd, ddim ond er mwyn cael gwybod unwaith eto nad oedd neb ar gael i ddelio a mi. Yn ogystal a hyn, anfonwyd gwys uniaith Saesneg ataf a bu'n rhaid i mi dethio i Gaerdydd unwaith eto ar Fehefin y 6ed er mwyn pledio. Dyma danlinellu'r ffaith bod angen deddf iaith gynhwysfawr sy'n gwneud yn siwr fod pawb yn deilwng o dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg HEB orfod gofyn dro ar ôl tro ac HEB orfod aros misoedd. Mae gosod Cymro yn y sefyllfa israddol o orfod gofyn bob tro am ei hawliau yn beth mwy sarhaus na'i gwrthod iddo."

Wrth anerch y llys dywedodd mae nid ar chwarae bach y gwnaeth hi'r penderfyniad i chwistrellu'r slogan 'Parch i'r iaith' ar Bencadlys Llywodraeth y Cynulliad. Dywedodd:

"Mae'n gamsyniad cyffredin mai ymgyrchu trwy ddulliau torcyfraith yn unig a wna Cymdeithas yr Iaith. Ers sefydlu llywodraeth y Cynulliad mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod mewn trafodaethau parhaol gyda gweinidogion y Llywodraeth ynglŷn ag adolygu'r ddeddf iaith bresennol. Yn ddiweddar, pwysleisiodd Alun Pugh, y Gweinidog Iaith nad oedd gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i adolygu'r ddeddf. Yng ngwyneb difaterwch ac apathi'r gwleidyddion, pa ddewis arall sydd ganddom ni ond gweithredu mewn modd uniongyrchol a di-drais."

Aeth Angharad ymlaen i ddweud y dylai fod gan bawb "Yr hawl i siarad a defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Ac i frwydro am yr HAWL dynol sylfaenol hwnnw yr ydw i'n sefyll yma heddiw. Hyd nes bydd Llywodraeth Lafur y Cynulliad yn dod at eu coed ac yn ysgwyddo'r gyfrifoldeb o Deddf iaith Newydd, byddaf i, yn un, yn parhau i ymgyrchu'n ddiflino dros barhad fy iaith a'm diwylliant, a thros hawliau fy mhlant a'r cenedlaethau i ddod."

Cymeriad tyst Angharad oedd yr actores Sharion Morgan. Nid oedd yn gallu bod yn bresennol yn y Llys ond fe ddarllenwyd ei datganiad hi gan Iola Gregory:

"...Nid gweithred o fandaliaeth oedd hwn - difrod er mwyn difrod - ond gweithred a wnaeth Angharad er mwyn tynnu sylw at y ffaith bod angen Deddf Iaith Newydd. Am fod y ddeddf bresennol yn annigonol. Mae hefyd yn weithred o brotest yn erbyn y rhai a alle gymryd came i ddiogelu'r Gymraeg ond sydd yn dewis peidio gwneud hynny.

...Mae'n destun balchder i fi fod ganddon ni yma yng Nghymru bobl ifanc fel Angharad sy'n fodlon sefyll dros eu egwyddorion, a a peryglu eu dyfodol eu hunain er mwyn diogelu dyfodol yr iaith Gymraeg."

Gorchmynwyd Angharad i dalu £200 o iawndal i Lywodraeth y Cynulliad, £50 o dirwy a £50 o gostau Llys.

Dyma fersiwn y South Wales Echo o'r stori

Mwy yn yr un categori(au): Blog Steffan
.

nôl i'r brig