Elfed Eisteddfod yn pregethu ei efengyl!
Echdoe cynhaliwyd cyfarfod rhwng y Gymdeithas a'r Eisteddfod ynghylch y busnes Maes B 'ma. Dywedodd Elfed Roberts wrthon ni y dylai’r Gymdeithas stopio cynnal gigs yn ystod yr Eisteddfod ac fe wnaethon ni chwerthin. Yna sylweddolais ei fod o ddifri.
Cyflwynwyd llythyr iddo yn condemnio’r polisi 'inclusive' ac yn gofyn i'r Eisteddfod ei ail-ystyried. Roedd 172 o unigolion a sefydliadau wedi ei arwyddo. Y peth oedd wedi gwylltio Elfed fwy na fi yn sôn wrtho i mi neidio dros ffens y maes Ieuenctid yn 'Steddfod Casnewydd oedd sylwadau pobl ar maes-e ynglŷn â'r mater.
Mae'n amlwg fod hyn wedi ratlo fe, gan fod y fforwm hwnnw yn rhywbeth hollol annibynnol a rhydd o ddylanwad ac ymyrraeth y sefydliad.
Mwy yn yr un categori(au):
Adloniant
|
Blog Steffan
|
Eisteddfodau
|
Gwynedd Môn
.
|