tafod.jpg hafan cymdeithas.org
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Radio Carmarthenshire v Cymdeithas yr Iaith

llys_hwlffordd.jpg.jpg

Am ddeg o’r gloch ddoe, roeddwn i, Angharad Blythe, Heledd Gwyndaf, Llinos Dafydd a Gwenno Teifi o flaen ‘ein gwell’ yn Llys Ynadon Hwlffordd. Roedden ni’n wynebu cyhuddiad o Ddifrod Troseddol yn dilyn protest yn stiwdios Radio Carmarthenshire yn Arberth ar Orffennaf 24ain 2004.

Ar ôl cael ein cyfarch yn serchog gyda gwên a chlonc gan yr heddweision a’n harestiodd ni, aethon ni i mewn i siambr y llys.

Braf oedd gweld bod mwy na dwsin o’n cefnogwyr yn y galeri, a mwy na hynny y tu allan (am nad oedd lle i bawb). Cyflwynwyd tystiolaeth yr erlyniad gan y CPS ac yna fe gyflwynodd pob un ohonon ni ddatganiad yr un.

Rhoddais amlinelliad o’r rhesymau tu ôl i’r brotest, a galwais ar Ofcom i sicrhau bod Radio Carmarthenshire yn adlewyrchu realiti iethyddol y bobl a’r gymuned y maen nhw’n honni eu gwasanaethu, drwy ddarlledu 50% o’u darpariaeth yn y Gymraeg.

Gwnaeth Gwenno ddatganiad ynglŷn â’r cyhuddiad ychwanegol o ymosod rwy’n ei wynebu yn sgîl yr un brotest ddi-drais yn ôl ym mis Gorffennaf. Dywedodd,

“Mae’n rhaid i ni wneud safiad yn erbyn y cyhuddiad o drais am fod egwyddor di-drais mor bwysig, ac wedi bod yn sylfaenol i holl weithredoedd y Gymdeithas dros ddeugain mlynedd.”

Aeth ymlaen i ddweud wrth yr Ynadon mai’r unig drais a welodd hi ar y diwrnod oedd oddi wrth staff yr orsaf wrth iddynt geisio ein symud ni o’r adeilad.

Gan mai disgybl ysgol ydi Gwenno, roedd hi wedi gwneud cais i gael Cyfaill McKenzie i’w chynrychioli, sef Ffred Ffransis, ei thad. Er bod Etholiad Cyffredinol ar y gweill dywedodd Ffred wrth yr Ynadon, nad oedd canran uchel iawn o bobl ifanc yn pleidleisio ac y dylsen nhw fod yn falch fod ganddom ni ddaliadau mor gryf.

Yn ei datganiad hithau, soniodd Llinos am effaith diffyg polisi iaith yr orsaf, gan ddweud taw siom o’r mwyaf oedd gweld, “ein gorsaf leol yn anwybyddu’r iaith yn llwyr bron – maen nhw fel petaen nhw’n ewyllysio tranc yr iaith.” Rhagwelodd pe byddai Radio Carmarthenshire yn parhau i anwybyddu’r iaith, mai honno fyddai’r hoelen olaf yn arch yr iaith Gymraeg.

Ynghylch y mater o iawndal (o £1,660.53) gwnaeth Angharad ddatganiad i’r llys gan ofyn i’r Ynadon bwyso a mesur y modd y penderfynwyd gwario’r arian hwnnw. Soniodd mai’r unig ddifrod oedd y glud ar gefn y sticeri a thynnodd sylw at benderfyniad y cwmni i wario dros £757.88 ar lanhau’r carpedi rhag ofn bod rhywfaint o lud o gefn y sticeri wedi disgyn arnynt.

Fe warion nhw hefyd, £702.65 ar ddau fonitor newydd oherwydd eu bod yn credu bod ôl glud ar un ohonyn nhw. Tynnodd Angharad eu sylw at y ffaith bod dau swm o £100 wedi ei wario ar alw peiriannydd i ddod allan i edrych ar glud. Dywedodd, “mae’n bosib dod i’r casgliad bod y cwmni’n ceisio manteisio ar y sefyllfa i gael carped a chyfrifiaduron newydd.”

Heledd oedd yr olaf i roi ei datganiad. Siaradodd am adduned darlledu Radio Carmarthenshire a’r modd y maent wedi torri’r cytundeb hwn yn gyson ers ei sefydlu. Yn yr adduned ddarlledu, dywedwyd y byddai 30% o’r ddarpariaeth yn Gymraeg, ond yn dilyn monitro gan y Gymdeithas, canfuwyd mai dim ond cyfartaledd o 3% o Gymraeg oedd ar donfeddi’r orsaf yn wythnosol.

Esboniodd Heledd wrth yr Ynadon bod aelodau o’r gymuned leol ac aelodau’r Gymdeithas wedi bod yn e-bostio a ffonio’r orsaf yn rheloaidd i gwyno am eu polisi iaith ddiffygiol. Ymateb negyddol iawn a gafwyd gan Keri Jones, cyfarwyddwr yr orsaf a ddywedodd nad oedden nhw erioed wedi chwarae cerddoriaeth Gymraeg ac nad oedden nhw’n bwriadu gwneud hynny chwaith. Yn sgîl hynny, penderfynwyd y byddai’n rhaid mynd â’r neges yn uniongyrchol at Radio Carmarthenshire.

Fe’n cafwyd ni’n euog o ddifrod troseddol ac fe’n rhyddhawyd yn amodol am 12 mis a chostau llys o £50 ac iawndal o £150. Gofynnwyd i ni sut yr ydym yn bwriadu talu a fy ymateb ar ein rhan oedd gofyn am amser i ystyried y mater. Rhoddwyd mis i’r pump ohonom i ystyried.

Ar y ffordd adref, wrth i Angharad a fi basio San Clêr, trois y radio ymlaen a gwrando ar Radio Carmarthenshire. Roedd pob cân yn Saesneg a’r unig Gymraeg a glywais mewn mwy na hanner awr oedd un llinell mewn sting newyddion - tokenism llwyr.

Rwy’n dal i wynebu achos arall yn ymwneud â’r brotest gyda chyhuddiad honedig o ”ymosod”. Nid yw dyddiad yr achos hwnnw wedi ei gadarnhau ar hyn o bryd.

Mwy yn yr un categori(au): Blog Steffan | Caerfyrddin Penfro
.

nôl i'r brig