Alun Pugh yn wfftio at y syniad o Ddeddf Iaith
Mae Alun Pugh y Gweinidog Diwylliant wedi wfftio at y syniad o gyflwyno Deddf Iaith Newydd. Dywedodd wrth ddirprwyaeth o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw:
“Nid wyf yn teimlo fod yna angen adolygu deddfwriaeth. Nid wyf chwaith yn meddwl fod angen i’r Dyfarnydd gael rhagor o bwerau.”
Dywedodd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac aelod o’r ddirprwyaeth a gyfarfu ag Alun Pugh heddiw:
“Mae’r ymateb negyddol hwn yn siom fawr i ni. Mae’n amlwg fod hollt wedi ymddangos rhwng llywodraeth y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith Gymraeg gan i Meri Huws, Cadeirydd y Bwrdd ddweud yn ddiweddar mai cynnwys Deddf Iaith Newydd yn hytrach na’r angen am un oedd y pwnc trafod bellach.
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn parhau i bwyso am Ddeddf Iaith drwy rwydweithio gyda’r mudiadau hynny ddaeth i’r Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith yn Mis Mawrth. Byddwn hefyd yn parhau gyda’n hymgyrch o weithredu uniongyrchol hyd nes y bydd y Gweinidog Diwylliant yn newid ei feddwl.
Mwy yn yr un categori(au):
Deddf Iaith
|
Morgannwg Gwent
|
Newyddion
.
|