Croeso i'r Blog newydd!
Nes i ddechrau blog yn gynt eleni, sef dimbrainsdotcom, gyda'r bwriad o bostio materion yn ymwneud ag ymgyrchu dros yr iaith, ond hwn bellach fydd fy mhrif flog a dwi am bostio yma o leia dwy i dair gwaith yr wythnos.
Ers i mi gael fy ethol yn Gadeirydd mae'r wythnos ddiwethaf wedi hedfan heibio! Mae wedi bod yn gyfnod hynod o brysur ― mi wnai sôn mwy am beth sydd wedi digwydd yn y man. Fy ngobaith ydi postio negeseuon eithaf cyson yma gan roi perspectif mwy personol i fy ngwaith i gyda'r Gymdeithas.
Mwy yn yr un categori(au):
Blog Steffan
|
Pethau
.
|