Cynigion a basiwyd yn Cyf Cyff 2005
Cyngor Ceredigion
Noda’r Cyfarfod Cyffredinol:
• benderfyniad diweddar Cyngor Ceredigion i benodi swyddog ieuenctid nad sy’n siarad Cymraeg;
• y ffaith bod y cyngor ond wedi darparu dogfennau tystiolaeth uniaith Saesneg fel rhan o ymchwiliad cyhoeddus y Cynllun Datblygu Unedol.
Cred y Cyfarfod Cyffredinol:
• bod yr enghraifft uchod yn dangos bod Cyngor Ceredigion yn parhau i fod yn sefydliad sydd yn gweithredu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.
Galwa’r Cyfarfod Cyffredinol:
• ar Gyngor Ceredigion i fabwysiadu rhaglen a fydd yn sefydlu’r Gymraeg fel iaith weinyddol fewnol y sefydliad;
• ar y cyngor i gynnal awdit o sgiliau iaith ei staff presennol;
• ac ar y cyngor i baratoi amserlen ar gyfer cyflawni’r nod uchod.
Cynigydd: Rhanbarth Ceredigion
Deddf Eiddo
Noda’r Cyfarfod Cyffredinol:
• y gwaith a wnaed gan y grwp ymgyrchu Cymunedau Rhydd yn adolygu polisi Deddf Eiddo y Gymdeithas;
• bod y gwaith hwnnw bellach yn tynnu i’w derfyn.
Cred y Cyfarfod Cyffredinol:
• bod polisi Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith yn cynnig nifer o atebion i’r argyfwng tai sydd yn tanseilio ein cymunedau.
Galwa’r Cyfarfod Cyffredinol:
• ar y grwp ymgyrchu Cymunedau Rhydd i drefnu ymgyrch gyhoeddusrwydd er mwyn dod a chynigion Deddf Eiddo i sylw aelodau’r Cynulliad, yr awdurdodau lleol a chyrff perthnasol ym maes tai a chynllunio.
Cynigydd: Grwp Ymgyrch Cymunedau Rhydd
Cyllido Addysg Uwch Gymraeg
Galwn ar Lywodraeth y Cynulliad i greu trefn unigryw o ran cyllido addysg uwch yng Nghymru yn unol a’n anghenion.
Galwn yn arbennig am:
1. bolisi o godi ffioedd (ar yr un raddfa â Lloegr) ar fyfyrwyr o du allan i Gymru, ond i hepgor ffioedd ar fyfyrwyr o Gymru, mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch yng Nghymru.
2. Am gyflwyno cymhellion ariannol ychwanegol i annog myfyrwyr i ddilyn nifer o gyrsiau mewn Coleg Ffederal Cymraeg. Yn hytrach na cheisio arian gan fyfyrwyr unigol dylid creu model newydd lle dylai Coleg Ffederal Cymraeg yn cael ei integreiddio’n well i fywyd Cymru a derbyn llawer o’i gyllid gan awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus a phreifat drwy gyfundrefn ymchwil iddynt.
Nodwn y bydd Coleg Ffederal Cymraeg fel hyn yn cynnig addysg Gymraeg berthnasol a fydd yn cryfhau ein cymunedau ac yn cynnig profiad addysg gwerthfawr i’n myfyrwyr.
Cynigydd: Grwp Ymgyrch Addysg
A wna Jane Davidson wrando ar gymunedau lleol?
1. Mae’r Cyfarfod Cyffredinol yn sylwi fod bygythiad i ddegau o ysgolion pentrefol Cymraeg ar waethaf canllawiau’r Cynulliad Cenedlaethol.
2. Sylwn nad yw Jane Davidson erioed wedi caniatáu unrhyw apel yn erbyn cau ysgol.
3. Sylwn ymhellach ei bod yn gwrthod cyfarfod â chynrychiolwyr cymunedau sydd dan fygythiad gan honni fod ei swyddogaeth dyfarnu apeliadau yn gwneud hyn yn amhosibl – a hynny er bod ei swyddogion mewn cyswllt cyson â swyddogion addysg lleol o’r ochr arall.
4. Ni chredwn fod modd cynnal safbwynt y Gweinidog Addysg a galwn arni i gyfarfod â dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith ac aelodau cymunedau sy’n wynebu colli eu hysgolion er mwyn trafod yr holl bosibiliadau cadarnhaol o ran datblygu’r ysgolion hyn.
Cynigydd: Grwp Ymgyrch Addysg
Mwy yn yr un categori(au):
Cyf Cyff (gynt)
.
|